Snoop Dogg i ymweld ag Abertawe mewn pythefnos
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau y bydd y rapiwr byd enwog Snoop Dogg yn ymweld â stadiwm Swansea.com am y tro cyntaf, nos Fawrth, 24 Chwefror.
Bellach yn gydberchennog yr Elyrch, bydd yn bresennol yn y gêm yn erbyn Preston North End.
Daeth yn rhan o grŵp o berchnogion Abertawe fis Gorffennaf diwethaf, ac ar ôl gwylio'i dîm o bell, bydd yn teithio draw i Abertawe er mwyn cefnogi'r Elyrch yn y dorf.
Yn ôl Clwb Pêl-droed Abertawe, bydd hefyd yn camu i ochr y cae er mwyn arwain arddangosfa gan y cefnogwyr cyn y gêm.
Bydd y rapiwr sydd wedi ennill gwobr Emmy bedair gwaith, a'i enwebu 21 o weithiau hefyd yng ngwobrau Grammy, yn ymweld ag ambell ardal yn lleol.
Yn ôl y clwb, bydd yn cwrdd â chefnogwyr a phrofi bywyd yn y ddinas a'r rhanbarth.
Dywedodd Snoop: "Fedra i ddim aros i ymweld a chlwb Abertawe ar gyfer ein gêm yn erbyn Preston.
"Ers y foment pan ddechreuodd y siarad amdana i yn dod yn berchennog, rydw i wedi edrych ymlaen i fod gyda chi yn Stadiwm Swansea.com.
"Rydw i wedi clywed pethau gwych am yr awyrgylch
"Pan wyliais y gêm yn erbyn Wrecsam, pan ddangosom mai ni yw y prif glwb pêl-droed Cymreig, roedd y sŵn yn y stadiwm yn wych, hyd yn oed fwy na 5,000 milltir oddi yno," meddai.
