Arestio llanc 13 oed ar ôl i ddau fachgen gael eu trywanu mewn ysgol yn Llundain
Mae bachgen 13 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ar ôl i ddau fachgen 12 a 13 oed gael eu trywanu mewn ysgol yn ngogledd-orllewin Llundain.
Mae'r ddau fachgen wedi eu cludo i ysbyty, ac yn ôl yr heddlu, maen nhw mewn cyflwr difrifol ac yn cael triniaeth frys.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Uwchradd Kingsbury yn Brent tua 12:40 brynhawn Mawrth wedi adroddiadau fod bachgen 13 oed wedi ei drywanu.
Ar ôl cyrraedd yr ysgol, daeth plismyn o hyd i fachgen 12 oed a oedd hefyd wedi ei drywanu.
Mewn datganiad toc ar ol 14:00, dywedodd yr ysgol bod “digwyddiad difrifol” yno a oedd bellach “o dan reolaeth.”
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Luke Williams fod meddyliau pawb yn y Met gyda'r bechgyn a'u hanwyliaid.
“Hoffem ddiolch i'r meddygon a'r nyrsys sy'n rhoi gofal brys i'r bechgyn.”
Mewn llythyr at rieni, dywedodd pennaeth yr ysgol Alex Thomas, fod y digwyddiad wedi “ysgwyd y gymuned gyfan yn yr ysgol.”
“Mae'n wir ddrwg gen i roi gwybod i chi am ddigwyddiad difrifol yn yr ysgol heddiw pan gafodd dau fyfyriwr eu trywanu. Rydym yn anfon ein dymuniadau gorau at y myfyrwyr hynny a'u teuluoedd ar adeg mor anodd,” meddai.
