Tymor yn unig yn gallu effeithio ar ymennydd chwaraewyr rygbi

Gall chwarae rygbi ar lefel broffesiynol am un tymor yn unig gael effaith ar ymennydd chwaraewyr, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol De Cymru.
Dilynodd ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru dîm proffesiynol sydd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig am dymor cyfan a phrofi chwaraewyr cyn, yn ystod, ac ar ddiwedd y tymor.
Yn ôl yr ymchwil, yn y cyfnod hwnnw fe all llif gwaed i’r ymennydd a gweithgaredd wybyddol (cognitive function) ddirywio.
Dywed The Guardian fod yr adroddiad yn dangos bod chwaraewyr wedi profi lleihad mewn llif gwaed i’r ymennydd yn ystod y tymor, a bod hyn yn effeithio ar eu gallu i resymu, cofio a ffurfio syniadau.
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod ergydion cyson i’r pen, nid dim ond cyfergydion, yn gallu cael effaith ar yr ymennydd wrth chwarae’r gêm.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Huw Evans