Eluned Morgan yn datgan ei chefnogaeth i Syr Keir Starmer

10/02/2026
Eluned Morgan a Keir Starmer

Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi datgan ei chefnogaeth i Syr Keir Starmer ar ôl iddo oroesi ymgais i’w ddisodli.

Daw ei sylwadau ddiwrnod wedi i arweinydd y Blaid Lafur yn Yr Alban, Anas Sarwar alw ar Starmer i ymddiswyddo.

Mewn datganiad fore Mawrth dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "cefnogi’r Prif Weinidog yn y swydd y cafodd ei ethol i'w chyflawni," meddai.

"Wedi blynyddoedd o un arweinydd ar ôl y llall dan y Ceidwadwyr, mae angen sefydlogrwydd ar y wlad mewn cyfnod o ansefydlogrwydd, ac mae hynny'n bwysig i Gymru."

Ychwanegodd Ms Morgan fod ganddi "bryderon" am Peter Mandelson yn ei swydd cyn iddo adael, a hynny oherwydd "y cwmni roedd yn ei gadw."

Ddydd Sul cyhoeddodd pennaeth staff y Prif Weinidog Keir Starmer, Morgan McSweeney, ei fod yn ymddiswyddo yn sgil sgandal Peter Mandelson.

Cafodd Peter Mandelson ei ddiswyddo ym mis Medi'r llynedd yn sgil gwybodaeth newydd am ei berthynas â'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.

Daeth honiadau i'r amlwg yr wythnos diwethaf fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein. Roedd yn weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown ar y pryd.

Daw hyn ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud a Jeffrey Epstein ddiwedd mis Ionawr.

Dywedodd Eluned Morgan bod "y materion hyn yn hynod o bryderus oherwydd, unwaith eto, cafodd lleisiau merched a menywod eu hanwybyddu.

“Rhaid cydnabod y methiant hwnnw a wynebu hynny yn onest. 

“Mae arweinyddiaeth yn golygu cynnal safonau a gweithredu pan maen nhw'n methu.

“Yn y pen draw, rwy’n barnu unrhyw Brif Weinidog yn ôl un prawf syml: ydyn nhw'n gweithio dros Gymru. Rwyf wedi bod yn glir gyda Keir ynghylch yr hyn sydd ei angen ar Gymru. Gweithredu ar gostau byw, buddsoddi yn ein heconomi a’n seilwaith, ac ymrwymiad parhaus i ddatganoli cryfach.

“Rwyf yn parhau i ganolbwyntio ar arwain Cymru yn ddiffuant a chyflawni newid gwirioneddol i bobl yma.”

'Dyn anrhydeddus'

Wrth siarad yn y Senedd yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog brynhawn Mawrth, cafodd Syr Keir Starmer ei ddisgrifio gan Eluned Morgan fel "dyn anrhydeddus" sydd wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus.  

Ychwanegodd nad oedd hi'n or hoff o Peter Mandelson gan nodi nad oedd yn credu fod ganddo'r un "egwyddorion" â Llafur Cymru.  

Gofynnodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth iddi a oedd Syr Keir wedi pwyso a mesur y sefyllfa mewn modd disgwyliedig gan Brif Weinidog wrth benodi yr Arglwydd Mandelson.  

Atebodd Eluned Morgan: "Cafodd Keir Starmer ei ethol gyda mandad clir i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Rydw i yn ei gefnogi yn y swydd y cafodd ei ethol i'w gwneud."    

Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, wrth y Prif Weinidog os byddai'n rhoi ei "chefnogaeth lawn i Mr Starmer?".

Fe atebodd y Prif Weinidog drwy ddweud ei bod wedi cysylltu â Keir Starmer nos Lun, cyn cyfarfod grŵp Seneddol y Blaid Lafur yn San Steffan, er mwyn datgan ei chefnogaeth iddo.

"Dwi'n meddwl bod y wlad wedi cael digon ar newid Prif Weinidogion bob blwyddyn neu ddwy," meddai.

"Mae'r syniad bod Ceidwadwr yn fy holi i am berfformiad y Prif Weinidog yn chwerthinllyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.