20 mlynedd o garchar i'r ymgyrchydd o blaid democratiaeth Jimmy Lai

Jimmy Lai

Mae'r ymgyrchydd o blaid democratiaeth, Jimmy Lai, wedi cael ei garcharu am 20 mlynedd yn Hong Kong.

Daw hyn ar ôl i'r cyn ddyn busnes gael ei ganfod yn euog ym mis Rhagfyr o darfu ar gyfraith a threfn yn y ddinas.

Dyma'r ddedfryd fwyaf llym sydd wedi ei rhoi o dan y gyfraith diogelwch cenedlaethol. Mae hon yn gyfraith ddadleuol ond yn ôl China mae'n hanfodol er mwyn dod a sefydlogrwydd i'r ddinas.

Mae Lai, sydd yn ddinesydd Prydeinig, wedi bod yn un o feirniaid mwyaf amlwg Beijing.

Fe glywodd y llys ym mis Rhagfyr bod Lai wedi defnyddio ei bapur newydd Apple Daily fel rhan o ymdrech i lobïo llywodraethau tramor i osod sancsiynau ar Hong Kong a China. Mae'r papur newydd bellach wedi dod i ben.

Cafodd chwech o swyddogion gweithredol y papur hefyd eu carcharu ddydd Llun.

Roedd y dedfrydau yn amrywio rhwng chwe blynedd a naw mis i ddeng mlynedd.

Mae Lai, sydd yn 78 oed wastad wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn. Dywedodd ei fod wedi dadlau dros werthoedd Hong Kong fel rhyddid i fynegi barn.

Beirniadu'r ddedfryd mae nifer o fudiadau hawliau dynol a mudiadau cyfryngau. Yn ôl Amnesty International mae "bob un diwrnod mae mewn cell yn anghyfiawnder llwyr".

Yn y gorffennol mae rhai wedi dweud na wnaeth Prif Weinidog Prydain, Keir Starmer ddigon i geisio rhyddhau Lai o'r carchar.

Ond mae China wedi rhybuddio gwledydd eraill i barchu'r ddedfryd ac i beidio ymyrryd.

Llun: Reuters 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.