Bryste i ddadlau yn erbyn cymorthdal i faes awyr Caerdydd

maes awyr Caerdydd

Mae disgwyl i Faes Awyr Bryste ddadlau yn erbyn y cymhorthdal mae Maes Awyr Caerdydd wedi derbyn gan Lywodraeth Cymru mewn tribiwnlys yn ddiweddarach.

Eu dadl nhw yw bod y £205.2m o gymhorthdal yn ddigynsail o fewn y diwydiant awyrennau.

Maent hefyd yn dweud bod yr arian yn groes i reolau cystadleuaeth.

Llywodraeth Cymru yw perchnogion y maes awyr ers 2013. Maen nhw wedi amddiffyn y cynllun deng mlynedd.

Bydd y ddwy ochr yn dadlau eu hachos yn ystod yr apêl gystadleuaeth. Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara dau ddiwrnod.

Pan wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r cymhorthdal ym mis Ebrill y llynedd fe ddywedon nhw y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cyfleusterau cynnal a chadw, cargo a thechnolegau cynaliadwy.

Y gobaith meddai'r llywodraeth oedd y byddai'r buddsoddiad deng mlynedd yn helpu i ddenu dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn.

Mae bwriad hefyd i greu llwybrau hedfan newydd.

Mae Maes Awyr Bryste wedi dweud cyn y gwrandawiad bod y cymhorthdal "yn anghyfreithlon, yn anghymesur, ac y byddai'n niweidio cystadleuaeth rhwng meysydd awyr a chwmnïau awyrennau."

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.