Pennaeth staff Keir Starmer, Morgan McSweeney, yn ymddiswyddo

Morgan McSweeney

Mae pennaeth staff Syr Keir Starmer, Morgan McSweeney, wedi ymddiswyddo.

Roedd nifer o Aelodau Seneddol yn beio Mr McSweeney am benodi Peter Mandeslon yn llysgennad Prydain i'r Unol Daleithiau.

Cafodd yr Arglwydd Mandelson ei ddiswyddo ym mis Medi'r llynedd yn sgil gwybodaeth newydd am ei berthynas gyda'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.

Mae honiadau fod yr arglwydd wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein, tra roedd yn weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown.

Daeth hynny i'r amlwg ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein ddiwedd mis Ionawr.

Y gred yw bod Mr McSweeney, sy'n ffrind i'r Arglwydd Mandelson, wedi gwthio iddo gael y swydd.

"Roedd y penderfyniad i benodi Peter Mandelson yn anghywir. Mae wedi niweidio ein plaid, ein gwlad ac ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ei hun," meddai Mr McSweeney mewn datganiad.

"Pan ofynnwyd i mi, mi wnes i gynghori'r Prif Weinidog i wneud y penodiad hwnnw ac rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am y cyngor hwnnw. 

"Mewn bywyd cyhoeddus mae'n rhaid cymryd cyfrifoldeb pan fo'n bwysicaf, nid dim ond pan fo'n fwyaf cyfleus. 

"O dan yr amgylchiadau, yr unig ateb anrhydeddus yw camu o'r neilltu."

Image
Mandelson a Starmer
Fe wnaeth Syr Keir Starmer benodi Peter Mandelson yn llysgennad Prydain i'r Unol Daleithiau yn 2025

Dywedodd Mr McSweeney nad oedd ymddiswyddo yn "benderfyniad hawdd" a phwysleisiodd ei fod yn parhau i fod yn "gefnogol iawn" o Syr Keir.

"Mae llawer wedi cael ei ysgrifennu a'i ddweud amdanaf dros y blynyddoedd ond mae fy nghymhellion wedi bod yn syml erioed," meddai. 

"Rwyf wedi gweithio bob dydd i ethol a chefnogi llywodraeth sy'n rhoi bywydau pobl gyffredin yn gyntaf ac yn ein harwain at ddyfodol gwell i'n gwlad wych. Dim ond llywodraeth Lafur fydd yn gwneud hynny."

Fe aeth ymlaen i ddweud fod ganddo "ddau fyfyrdod" wrth iddo adael y swydd.

"Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, mae'n rhaid i ni gofio'r menywod a'r merched y cafodd eu bywydau eu difetha gan Jeffrey Epstein ac na gafodd eu lleisiau eu clywed am lawer rhy hir," meddai.

"Yn ail, er na wnes i oruchwylio'r diwydrwydd dyladwy (due diligence) a'r broses gwirio, rwy'n credu bod yn rhaid ailwampio'r broses honno'n sylfaenol nawr. Ni all hyn fod yn ystum yn unig ond yn ddiogelwch ar gyfer y dyfodol.

"Rwy’n parhau i gefnogi’r Prif Weinidog yn llwyr. Mae’n gweithio bob dydd i ailadeiladu ymddiriedaeth, adfer safonau a gwasanaethu’r wlad. Byddaf yn parhau i gefnogi’r genhadaeth honno ym mha bynnag ffordd y gallaf. Mae wedi bod yn anrhydedd fy mywyd i wasanaethu."

Wrth ymateb i'w ymddiswyddiad, dywedodd Syr Keir: "Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gyda Morgan McSweeney ers blynyddoedd lawer. 

"Mae wedi troi ein plaid o gwmpas ar ôl un o’i cholledion gwaethaf erioed, ac mae wedi chwarae rôl ran ganolog yn rhedeg ein hymgyrch etholiadol. Diolch i’w ymroddiad, ei deyrngarwch a’i arweinyddiaeth yn bennaf y gwnaethom ennill mwyafrif ysgubol a chael cyfle i newid y wlad.

"Ar ôl gweithio’n agos gyda Morgan yn yr wrthblaid ac yn y llywodraeth, rwyf wedi gweld bob dydd ei ymrwymiad i’r Blaid Lafur ac i’n gwlad. Mae ein plaid a minnau’n ddyledus iddo, ac rwy’n diolch iddo am ei wasanaeth."

Mae arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, wedi croesawu ymadawiad Mr McSweeney, ond dywedodd y dylai'r Prif Weinidog "gymryd cyfrifoldeb" am ei weithredoedd.

Dywedodd ar X: "Mae'n hen bryd. Ond unwaith eto gyda'r Prif Weinidog hwn, bai rhywun arall yw hi: 'Dywedodd Mandelson gelwydd wrtha i' neu 'Rhoddodd Morgan gyngor i mi'.

"Mae'n rhaid i Keir Starmer gymryd cyfrifoldeb am ei benderfyniadau ofnadwy ei hun. Ond nid yw byth yn gwneud hynny."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.