Cyhuddo dyn o'r gogledd o geisio llofruddio ar ôl gwrthdrawiad â cherddwr

Heddlu

Mae dyn o’r gogledd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr.

Cafodd Paul Rudd ei arestio ym mhentref Doddleston, yn Sir Gaer, yn dilyn digwyddiad yn ystod oriau mân fore Sadwrn.

Cafodd Heddlu Sir Gaer eu galw i Church Road, yn dilyn adroddiad bod dyn wedi cael ei daro gan gar Kia Sportage glas.

Cafodd y dyn 43 oed, o Wrecsam, ei gludo i Ysbyty Countess of Chester. Mae’n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog, yn ôl y llu.

Mae Rudd, o Warren Hall Court, Ffordd yr Wyddgrug, Brychdyn, bellach wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caer ddydd Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.