Bangor: Ailagor rhan o'r A55 ar ôl i gar fynd ar dân
Mae rhan o ffordd yr A55 ger Bangor yng Ngwynedd wedi ailagor i gyfeiriad y dwyrain ar ôl i gar fynd ar dân.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd ddydd Sadwrn bod ffordd yr A55 ar gau rhwng cyffordd 10 a chyffordd 11 i gyfeiriad y dwyrain yn Llandygai.
Ond cafodd y ffordd ei hailagor toc wedi 16.00 brynhawn Sadwrn.