Un o feibion y Beckhams i gamu ar lwyfan Clwb Ifor Bach

y Beckhams

Fe fydd un o feibion David a Victoria Beckham yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ddiwedd Chwefror. 

Fe fydd Cruz Beckham yn perfformio mewn gig yng Nglwb Ifor Bach ar 27 Chwefror.

Mae'r clwb yn cynnal nifer o gigs ac yn adnabyddus am gefnogi cerddoriaeth iaith Gymraeg hefyd.

Mae trydydd plentyn y Beckhams yn ganwr yn ogystal ag yn gitarydd, ac mae hefyd yn rhan o fand The Breakers. 

Fe fydd hefyd yn perfformio ar draws Ewrop fel rhan o'i daith, gan gynnwys ymddangosiadau ym Mharis, Amsterdam a Llundain. 

Mae teulu'r Beckhams wedi bod dan y lach yn ddiweddar wedi i fab hynaf David a Victoria, Brooklyn Peltz Beckham, ddweud ym mis Ionawr bod ei rieni wedi bod yn "rheoli rhan fwyaf ei fywyd".

Mewn neges ar Instagram fe ddywedodd nad oedd eisiau cymodi gyda'i fam a'i dad, a'i fod am y tro cyntaf yn "sefyll fyny" dros ei hun.

Mae yna ddyfalu wedi bod am amser bod yna ffrae wedi bod rhwng aelodau o'r teulu. Yn y negeseuon mae'n dweud fod ei rhieni wedi bod yn ceisio "dinistrio" ei berthynas gyda'i wraig, yr actores Nicola Peltz Beckham.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.