Ansicrwydd dros hawl chwaraewr pêl-droed ifanc i gynrychioli Cymru
Ansicrwydd dros hawl chwaraewr pêl-droed ifanc i gynrychioli Cymru
Enzo Romano, pêl-droediwr ifanc a'i freuddwyd yn y fantol.
Cafodd Enzo Romano ei eni yng Nghaerdydd yn 2009 i rieni o'r Eidal a Sbaen.
Mae e bellach yn byw yn Sbaen ac wedi chwarae i dim ieuenctid Barcelona ymhlith eraill.
Mae e hefyd wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru ond er wedi'i eni yng Nghymru mae ansicrwydd a fydd e'n cael chwarae i Gymru eto.
Yr wythnos diwethaf, gwrthododd y Swyddfa Gartref ail gais Enzo i gael dinasyddiaeth Brydeinig.
Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos fod ei freuddwyd o chwarae i dim cyntaf Cymru ar ben.
"Just because I moved to Barcelona, doesn't mean that I'm not Welsh.
"The first thing that happens on my mind is the dragon on my chest.
"They don't want to give me the nationality for a passport.
"It's so unfair."
Gan fod Enzo bellach yn 16 oed mae angen pasbort neu ddinasyddiaeth Brydeinig arno i chwarae dros Gymru mewn gemau cystadleuol sy'n cael eu chwarae dramor.
Er mwyn cael dinasyddiaeth mae'n rhaid i o leiaf un o'r rhieni fod yn Brydeinig neu bod nhw wedi ymgartrefu yn barhaol ym Mhrydain.
Roedd Antonio yn byw a gweithio yn Gaerdydd am dros ddegawd.
Roedd e'n credu bod ganddo statws preswylydd parhaol.
Yn ôl penderfyniad y Swyddfa Gartref doedd e heb gyrraedd y trothwy cyflog angenrheidiol.
Nos Fawrth, cadarnhaodd y Swyddfa Gartref fod ail gais wedi'i wrthod.
Dywedodd hefyd bod yr achos yn cael ei ail-agor i ystyried oes tystiolaeth newydd gan y teulu.
"I can't represent my country playing football just because of this situation.
"It gets me so hurting.”
This situation is so weird. If you read the requirements, we meet them.
"For us as parents, even without a passport he's been Welsh all his life."
Mae Enzo wedi gwrthod cynigion i chwarae i dimau ieuenctid Sbaen a'r Eidal gan ei fod yn benderfynol o gynrychioli Cymru.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cynorthwyo Enzo a'i deulu drwy gydol y broses.
Ond yn ôl un cyfreithiwr sy'n arbenigo yn y maes chwaraeon mae rheolau FIFA yn glir.
"Mae rheolau FIFA yn eitha llym.
"Mae'n rhaid dangos bod pasbort neu ddinasyddiaeth gyda chi a'ch bod wedi byw mewn gwlad am bum mlynedd."
Ar hyn o bryd, mae Enzo Romano yn chwarae i Vilassar de Dalt yn y Liga Elit yn Sbaen, ac wrth i'w achos barhau ei ddyfodol rhyngwladol sy'n dal i fod yn ansicr.