Cynllun i agor busnesau bwyd a diod mewn coedwigoedd a choetiroedd poblogaidd

Coedwig Niwbwrch (CNC)

Mae cynllun i agor busnesau bwyd a diod mewn rhai o gyrchfannau awyr agored poblogaiddd Cymru wedi ei lansio.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd cynigion ar gyfer naw uned arlwyo symudol sy'n gallu darparu bwyd a diodydd mewn coedwigoedd a choetiroedd poblogaidd.

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr llwyddianus ddangos “ymrwymiad clir i leihau milltiroedd bwyd, dileu plastigau untro, a mabwysiadu arferion gweithredol mwy gwyrdd,” yn ôl CNC.

Bydd unedau ar gael yn y safleoedd canlynol:

  • Fforest Fawr, Caerffili
  • Coed Llantrisant
  • Coedwig Hafren
  • Tan y Coed, Machynlleth
  • Niwbwrch (dau gyfle)
  • Coed y Brenin
  • Heol y Fan, Rhydri
  • Coed Cas-gwent

Bydd rhagor o safleoedd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Daw wedi i CNC gyhoeddi yn 2024 y byddai'n rhoi'r gorau i redeg caffis a siopau mewn tair canolfan ymwelwyr, sef Coed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian ac Ynys Las yng Ngheredigion.

Dywedodd Neil Stoddart, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i fusnesau arlwyo weithredu mewn lleoliadau awyr agored bywiog sy’n denu llawer o ymwelwyr, gan gyfrannu’n uniongyrchol at ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru a’r mwynhad mae’n ei roi.

“Rydym yn chwilio am bartneriaid brwdfrydig a all ddarparu gwasanaeth rhagorol, cyflwyno eu hunedau i’r safonau uchaf, a chwarae rhan weithredol wrth ofalu am y lleoedd arbennig hyn.”

Llun: Coedwig Niwbwrch (CNC)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.