Newyddion S4C

'Ergyd fawr': Canolfan ymwelwyr Coed y Brenin ger Dolgellau i gau

06/11/2024
coed y brenin.png

Mae gwleidyddion wedi mynegi eu siom wedi i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi y bydd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin ger Dolgellau yn cau. 

Bwriad y corff amgylcheddol ydy rhoi'r gorau i redeg caffis a siopau mewn tair canolfan ymwelwyr, sef  Coed y Brenin a Bwlch Nant yr Arian ac Ynys Las yng Ngheredigion. Mae nhw'n dweud y byddan nhw'n chwilio am "bartneriaid" i redeg y gwasanaethau yma.

Ond mae nhw'n pwysleisio y bydd llwybrau, mynediad, meysydd parcio, a thai bach yn parhau ar y safleoedd hynny.

Yn sgil y newidiadau, fydd yn cynnwys torri nifer o wasanaethau eraill, bydd swyddi 120 aelod o staff yn cael eu heffeithio, er fod y corff yn dweud y gall rhai pobl cael eu hadleoli i swyddi eraill. 

Dywedodd un cynghorydd sir lleol Delyth Lloyd-Griffiths: "Mae hyn yn newyddion ofnadwy i Goed y Brenin, y staff, ac i bawb sy'n rhan o'r ymgyrch i atal cau'r ased yma sy'n cael ei thrysori yn lleol. 

"Mae hefyd yn ergyd i economi leol ac ymwelwyr ym Meirionnydd, gan fod Coed y Brenin yn cyfrannu yn sylweddol."

Ychwanegodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts a’r Aelod Senedd Mabon ap Gwynfor mewn datganiad ar y cyd: "Rydym ni wedi dadlau o'r dechrau fod dyfodol hirdymor Coed y Brenin fwyaf diogel yn nwylo'r gymuned leol, ond yn anffodus, rydym ni wedi darganfod ein hunain mewn safle lle mae'r anghenion hyn yn cael eu diystyru er gwaethaf cefnogaeth fawr dros berchnogaeth gymunedol. 

"Rydym ni wedi erfyn yn gyson ar Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu yn gadarnhaol gyda'r grŵp lleol Caru Coed y Brenin sydd mewn sefyllfa dda i gymryd rheolaeth o'r safle. 

"Mae cau'r adnodd gwych hwn yn cael ei ruthro heb ymgynghori a chraffu ystyrlon, a heb fawr o ystyriaeth am yr effaith ar yr economïau lleol ac ymwelwyr."

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd CNC: "Rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymroddiad a'r gwytnwch y mae ein staff wedi'i ddangos drwy gydol y cyfnod hwn o newid. 

"Rydym yn gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol, ac rydym yn cydnabod yr ansicrwydd y mae llawer wedi'i brofi. Nid ailstrwythuro oedd unig nod y broses hon, ond hefyd ail-lunio ein sefydliad gyda ffocws clir ar y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.