Price drwodd i rownd gynderfynol Meistri’r Byd

01/02/2026
Gerwyn Price

Mae’r Cymro Gerwyn Price drwodd i rownd gynderfynol pencampwriaeth dartiau Meistri’r Byd ym Milton Keynes ddydd Sul.

Fe gurodd Price Chris Dobey o Loegr o 4-2 brynhawn ddydd Sul.

Fe fydd Price nawr yn herio pencampwr y byd Luke Littler nos Sul am le yn y rownd derfynol.

Fe wnaeth Price sicrhau ei le yn rownd yr wyth olaf trwy guro ei gyd-Gymro Jonny Clayton o drwch blewyn ddydd Sadwrn.

Llun: X/PDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.