Merch yn ei harddegau wedi marw fis ar ôl tân yn y Swistir

01/02/2026
Crans Montana

Mae merch yn ei harddegau gafodd ei hanafu yn ddifrifol mewn tân mewn bar yn y Swistir wedi marw mewn ysbyty meddai’r erlynydd cyhoeddus lleol.

Daw hyn â’r cyfanswm y bobl fu farw yn y tân yn Crans Montana ar Nos Galan i 41.

Dywedodd yr erlynydd cyhoeddus Beatrice Pilloud: "Bu farw dinesydd 18 oed o'r Swistir mewn ysbyty yn Zurich ar Ionawr 31.

“Ni fydd unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei rhyddhau ar hyn o bryd.”

Fe anafwyd 116 o bobl hefyd yn y tân. 

Roedd y rhan fwyaf o ddioddefwyr y tân yn ifanc - roedd wyth o dan 16 oed - ac mae llawer yn dal i gael eu trin yn yr ysbyty am losgiadau difrifol.

Y gred yw mai gwreichionen (‘sparkler’) oedd yn cael ei gludo ar ben poteli o ddiod oedd achos y tân. 

Nid oedd y broses o wirio diogelwch bar Le Constellation wedi digwydd ers pum mlynedd.

Mae perchnogion y bar, Jacques a Jessica Moretti, wedi cael eu cyhuddo gan yr awdurdodau o ddynladdiad trwy esgeulustod, niwed corfforol trwy esgeulustod a llosgi bwriadol trwy esgeulustod.

Mae achosion troseddol hefyd wedi'u dwyn yn erbyn pennaeth diogelwch cyhoeddus y fwrdeistref a chyn-arolygydd diogelwch tân y cyngor.

Llun: Swissinfo

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.