Ai Jason O'Connell fydd arweinydd Reform yng Nghymru?

01/02/2026
Jason O'Connell

Mae cynghorydd wedi dweud ei fod yn teimlo ei fod yn barod i fod yn arweinydd plaid Reform UK yng Nghymru.

Ond dywedodd Jason O'Connell, sy’n cynrychioli Llantarnam yn Nhorfaen, nad oedd eto wedi “derbyn yr alwad” i gadarnhau mai ef fydd yr arweinydd.

Mae sïon wedi bod ar led dros yr wythnos diwethaf mai Jason O'Connell fydd dewis Reform UK i arwain ei blaid i mewn i Etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Ef hefyd oedd wyneb y blaid mewn darllediad gwleidyddol a gyhoeddwyd ddydd Iau, ac mae wedi cynrychioli’r blaid mewn nifer o gyfweliadau teledu a radio dros y misoedd diwethaf.

“Dwi’n falch iawn o glywed y sïon," meddai wrth raglen Sunday Politics Wales

"Ond dydw i ddim wedi siarad ag unrhyw un yn y blaid. Rydw i wedi gweld y sylwadau ar X. Mae’n job fawr. Mae’n dîm talentog.”

Gofynnodd y cyflwynydd Teleri Glyn Jones iddo a fyddai’n gallu cwblhau’r dasg.

“Rydw i’n credu y byddwn i,” meddai. “Rydw i’n credu y byddwn i.

“Ond dydw i ddim wedi cael yr alwad. Dydw i ddim wedi siarad ag unrhyw un yn y blaid, felly bydd yn rhaid i ni aros i weld pa gyhoeddiadau a ddaw.”

Nid yw’r blaid eto wedi cyhoeddi pwy fydd yn eu cynrychioli yn Etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Dywedodd Jason O'Connell wrth Sunday Supplement a Radio Wales eu bod nhw wedi bod yn brysur yn archwilio cefndir ymgeiswyr.

“Rydw i wedi mynd drwy’r broses ac mae’n greulon, mae’n ymwthiol,” meddai.

“Mae cyfryngau cymdeithasol wedi bod o gwmpas ers dros 20 mlynedd bellach, ac mae yna lawer iawn o hanes yno.

“Rydyn ni wedi gwrthod rhai pobl wirioneddol dda dim ond rhag ofn eu bod nhw wedi dweud rhywbeth ychydig yn od 10 neu 20 mlynedd yn ôl.

“Rydyn ni wedi colli’r gallu hwnnw i’w denu nhw i mewn oherwydd, fel y dywedais i, mae’r digidol yn dragwyddol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.