Newidiadau yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd
Mae rheolwr dros-dro Cymru, Robert Page wedi cyhoeddi newidiadau i'r garfan fydd yn cynrychioli'r tîm pêl-droed yn eu gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd.
Bydd Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Y Ffindir nos Fercher (1 Medi) yn Helsinki, cyn herio Belarws (5 Medi) yn Rwsia ac Estonia (8 Medi) yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fe gyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed na fydd Aaron Ramsey, Joe Rodon, George Thomas a Neco Williams yn chwarae oherwydd anafiadau, gyda Brendan Cooper, Mark Harris, Josh Sheehan a Ben Woodburn yn cymryd eu lle.
Yn ychwanegol i hyn, ni fydd Ethan Ampadu, Tyler Roberts na Brendan Cooper yn gallu teithio ar gyfer y gêm yn erbyn Belarws yn Rwsia gan nad oedden nhw'n gallu cael cadarnhad o fisa mewn pryd i deithio i'r Ffindir.
Daw hyn ar ôl i'r rheolwr gwestiynu penderfyniad UEFA i symud y gêm ragbrofol i Kazan yn Rwsia, gan ddweud y byddai'r garfan yn wynebu "hunllef logistaidd" arall ar ôl gorfod teithio dros 5,000 o filltiroedd yn ystod ymgyrch Euro 2020.
Fe fydd y tri chwaraewr yn teithio yn ôl i Gaerdydd i baratoi am y gêm yn erbyn Estonia.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans