Apêl am wybodaeth flwyddyn ar ôl diflaniad dyn o Gaerdydd

31/01/2026
Mark Kinson

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio o'r newydd am fanylion ynghylch diflaniad dyn o Gaerdydd union flwyddyn yn ôl.

Mae blwyddyn ers i Mark Kinson, 53 oed, gael ei weld ddiwethaf yn ardal Llanrhymni o’r ddinas.

Dywedodd y llu bod eu “meddyliau gyda theulu a ffrindiau Mark, ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod ymlaen”.

Gwelwyd Mark ddiwethaf ar ddydd Gwener 31 Ionawr, 2025, am 21:45pm ar ffordd yn Llanrhymni.

Yna fe’i welwyd am tua 22:00 pm ar ffordd Captain's Walk yn cerdded i gyfeiriad cyffredinol Cilgant Braunton.

Fe wnaeth yr heddlu gynnal ymholiadau helaeth i ddod o hyd i Mark ond nid oes unrhwy gadarnhad am ei leoliad ers y diwrnod hwnnw.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Daniel Todd: "Er gwaethaf ymchwiliad trylwyr, yn anffodus mae diflaniad Mark yn parhau i fod heb ei egluro. 

"Rydym yn deall pa mor ofidus yw hyn i anwyliaid Mark.

"Rydym yn rhannu gobaith y teulu y bydd ganddynt atebion i'r hyn sydd wedi digwydd i Mark un diwrnod. 

"Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod ymlaen. 

"Byddwn bob amser yn gweithredu ar unrhyw wybodaeth arwyddocaol newydd.”

Fel rhan o'r ymchwiliad, mae swyddogion wedi archwilio data ffôn a lluniau teledu cylch cyfyng, wedi chwilio tir agored, ardaloedd coediog, a glannau afonydd, wedi cynnal gwiriadau ariannol, ac wedi gwneud nifer o apeliadau heddlu.

Mae Mark wedi ei ddisgrifio fel rhywun tua 5 troedfedd 7 modfedd o daldra ac roedd yn gwisgo tracwisg llwyd tywyll/glas ar y diwrnod y diflannodd.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.