Costau byw'n arwain at dwf 'dêt solo' ymysg yr ifanc
I nifer cynyddol o bobl ifanc sydd yn wynebu heriau costau byw, mae'r sefyllfa wedi arwain at dwf mewn poblogrwydd yr hyn sy'n cael ei alw'n 'solo dating' - sef gwneud gweithgaredd ar eich pen eich hun.
Un sydd yn cofnodi ei phrofiad o 'solo dating' yw Elen Jones, sydd bellach yn byw yn Abertawe ond o Ynys Môn yn wreiddiol.
O weithgareddau yn y tŷ i ymweld â siopau coffi, mae Elen yn rhannu ei phrofiad ar gyfryngau cymdeithasol, gan bwysleisio'r pwysigrwydd o ddod i adnabod ei hun yn well o ganlyniad.
Dywedodd Elen, sydd yn gyfrifol am gyfres o fideos TikTok 'Solo Dates' wrth Newyddion S4C: "Dwi'n byw ar ben fy hun, felly yn amlwg mae 'na gostau ychwanegol yn mynd i ddod i rywun sydd yn byw ar ben ei hunain.
"I gymharu â os 'da chi'n byw gyda rhywun arall, er bod 'na ostyngiadau mewn lle ar gyfer rhai biliau, mae o dal yn lot o arian.
"Felly mae hwnna mewn ffordd, yn rhwystr i bobl os 'dy nhw'n ystyried i 'neud pethau."
Yn ôl yr adroddiad diweddar gan ‘Lifetime’ roedd pryderon am arian yn effeithio ar bobl ifanc yn negyddol, yn enwedig ar berthnasoedd rhamantus, gyda 19.2% o bobl ifanc yn cytuno a 14% yn credu fod eu perthynas gyda chyfeillion yn cael eu heffeithio gan brinder arian.
Ychwanegodd Elen: "Mae noson allan dyddiau 'ma mor ddrud.
"Felly dwi'n deall pam bod 'na lai a llai o bobl yn tueddu i fynd allan i neud pethau, ac yn fwy debygol o aros i mewn i wneud pethau."
Eleni, mae Elen yn bwriadu gwario amser gyda'i ffrindiau adref yn hytrach na mynd allan mor aml.
"Yn bersonol, dwi'n hoffi cymysgedd o'r dau - dwi'n mwynhau bod allan ond hefyd fi yn mwynhau aros mewn. Mae'n dibynnu ar beth yw'r planiau."
'Patrwm gwario wedi newid'
Un sydd wedi gweld newid ym mhatrwm gwario pobl ifanc yw Tom Roberts, perchennog Canna Deli yng Nghaerdydd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn gweld digon o brysurdeb yn wythnos gyntaf y mis, "ar ôl payday pawb", ond wedyn mae'n mynd yn dawelach.
'Mae pobl yn fwy ymwybodol o faint mae nhw'n gwario, yn cael bwyd a diod a peidio cael yr ail baned o goffi. Neu peidio cael cacen ar ôl bwyd", meddai.
Yn ôl adroddiad 'Lifetime's Money and Mindset Report' y llynedd, mae llai o bobl ifanc yn mynd allan i gymdeithasu o ganlyniad i ddiffyg arian dros ben.
Gyda sawl unigolyn dal i wynebu heriau argyfwng costau byw, mae sut mae pobl yn cymdeithasu wedi newid o ganlyniad.
Eleni, mae bron hanner o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi dweud bod eu costau wedi gwaethygu dros y 12 mis diwethaf, (adroddiad YouGov - Ionawr 2026), gyda dim ond 12% yn credu y bydd eu sefyllfa ariannol yn gwella y flwyddyn hon, 44% yn disgwyl dirywiad yn eu sefyllfa, a 37% yn credu na fydd pethau yn gwella na gwaethygu iddyn nhw.
Yng Nghymru, dywedodd 40% o fusnesau yn y Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru 2025 (Llywodraeth Cymru) eu bod yn credu bod y diffyg arian dros ben sydd gan bobl i'w wario wedi effeithio ar y galw ar eu busnesau.
I Elen Jones, mae hi'n hoffi cael y gymysgedd o fynd allan neu aros i mewn.
"Mae'n dibynnu beth ydy'r planiau," meddai.
Ei diwrnod perffaith yw mynd allan i redeg, cyn mynd am baned o goffi gyda ffrindiau.
"Dwi yn llai tebygol o fynd allan, er fy mod i yn hoffi noson allan bob yn hyn a hyn."