Dau ddyn wedi'u hanafu mewn 'ymosodiad difrifol' yng Nghaerdydd

Dau ddyn wedi'u hanafu mewn 'ymosodiad difrifol' yng Nghaerdydd
Mae dau ddyn wedi'u hanafu mewn "ymosodiad difrifol" yng Nghaerdydd.
Mae'r dynion, y ddau yn 21 oed, yn derbyn triniaeth wedi'r digwyddiad yn ardal Kingsway am tua 1:00 fore Sul, ond maent mewn "cyflwr sefydlog".
Mae'r ffordd wedi ei chau gan yr heddlu ac fe fydd yn aros felly wrth i swyddogion gynnal eu hymchwiliadau.
Cafodd grŵp o ddynion eu gweld yn rhedeg o'r lleoliad ac mae ymchwiliad wedi dechrau.
Mae'r heddlu'n annog unrhyw un oedd yn yr ardal o gwmpas 1:00 fore Sul ac a welodd y digwyddiad, neu sydd â deunydd fideo, i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matthew Cox: "Mae gan droseddau cyllyll oblygiadau dinistriol ac mae taclo'r mater pryderus hwn yn flaenoriaeth i ni. Mae ein swyddogion yn patrolio canol y ddinas ac yn defnyddio grymoedd atal a chwilio pan bod ganddynt reswm i wneud".
Dyma'r ail achos o drywanu yn y brifddinas dros y penwythnos, ond nid yw'r heddlu'n credu bod cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.
Mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhyw sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu gan ddefnyddio cyfeirnod *303953.
Llun: Google