
Pryder bod rhai yn anwybyddu rhybuddion croesfannau trên

Pryder bod rhai yn anwybyddu rhybuddion croesfannau trên
Mae pryderon bod rhai gyrwyr yn anwybyddu rhybuddion ar groesfannau trên yn ardal Gwynedd.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd mae adroddiadau o yrwyr yn gyrru drwy oleuadau coch ac ar draws y cledrau sy'n croesi'r ffordd ym Mhorthmadog, er gwaetha'r peryglon amlwg.
Does dim polion yn mynd fyny a lawr ar y croesfannau’r trên stêm yno, yn hytrach goleuadau coch sy'n fflachio pan mae trên ar y ffordd.
Mae'r cynghorydd Plaid Cymru lleol Nia Jeffreys wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "gwirion bost".

"Fedra i'm credu'r peth i fod yn onest", dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.
"Ma'n wirion bost bo pobl ddim yn gwrando ac yn aros.
"Dwi'n ddiolchgar iawn i'r heddlu am ddenu sylw at y peth ag yn eu cefnogi nhw cant a cant.
"Dwi'n erfyn ar bobl i gadw at y gyfraith, i barchu'r goleuadau coch, ag yn amlwg i beidio mynd trwyddyn nhw achos 'di nhw ddim jyst yn peryglu eu hunain ma' nhw'n peryglu pobl eraill hefyd."
Mae Heleddd Walters, Rheolwr Prosiect Network Rail, wedi ategu'r neges.
"Ma'r reilffordd yn lle rili beryglus", meddai.
"Ma'r trenau yn trafaelu yn gyflym iawn, ma' nhw hefyd yn trafaelu yn eithaf tawel, a ma'n cymryd pellter hir iddyn nhw ddod i stop.
"Felly mae e'n beryglus iawn bod pobl yn camddefnyddio y croesfannau yma", ychwanegodd.