Neges gudd o’r Ail Rhyfel Byd wedi’i darganfod mewn Capel yn Nhywyn

ITV Cymru
Neges ar drawst Tywyn

Mae neges gudd o'r Ail Ryfel Byd wedi ei darganfod yn nhrawstiau Capel Ebeneser yn Nhywyn, Gwynedd.

Cafodd y neges, sydd yn weladwy o’r nenfwd yn unig, ei darganfod gan drydanwr oedd yno i ail-weirio’r adeilad. 

Fe welodd eiriau wedi’u naddu i’r pren ar un o’r trawstiau yn dweud: “We are at war with Germany”. 

Mae’n debygol fod y neges wedi’i adael gan un o gyn-adnewyddwr y Capel, bron i 86 mlynedd yn ôl.

Doedd neb yn ymwybodol o’r geiriau hyn, ac fe’u disgrifiwyd fel ‘syrpreis’ gan aelodau’r capel.

“Falle bod negeseuon eraill wedi sgwennu mewn mannau cudd,” meddai Ceri Jones, ysgrifennydd y Capel.

Mae Ceri’n teimlo bod y darganfyddiad yn arwydd o bwysigrwydd y Capel yn y gymuned yn y cyfnod a hyd at heddiw. 

“Mae yna obaith o hyd ar ôl tywyllwch y rhyfel yn 1940,” meddai.

“Rydym ni dal ar agor, dal i gredu, dal i symud ymlaen. Mae croeso i bawb ymuno â hynny.”

Image
Tywyn yn 1940
Cafodd ardal Tywyn ei ddefnyddio gan y fyddin ar gyfer ymarferion. 

Cysylltiad Tywyn â’r Rhyfel

Bu sawl digwyddiad trist yn Nhywyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe fu farw peilot yn Ionawr 1943 wedi damwain awyren yn y dref.

Yn Mai 1944, bu farw tri brawd ifanc (13, 11, 9) ar ôl dod ar draws bom morter heb ei ffrwydro ar fryn ger Tywyn a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer ymarferion y fyddin. 

Mae carreg goffa iddyn nhw yno ers 2015.

Ar 8 Gorffennaf 1944, glaniodd awyren fomio Americanaidd ar frys yn Nhywyn ar ôl methu dod o hyd i RAF Llanbedr, gan daro lloches. Yn ffodus goroesodd pob un o'r 15 aelod o'r criw.

Mae 27 o bobl a gafodd eu hanafu yn ystod y rhyfel wedi’u claddu ym Mynwent Tywyn, gan gynnwys aelodau milwrol a thrigolion lleol.

Mae yna rhestr o 19 o drigolion Tywyn a fu farw yn yr Ail Rhyfel Byd yn Eglwys Sant Cadfan yn y dref, a dadorchuddwyd cofeb yn 1990 i gofio’r rhai fu farw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.