Brooklyn Beckham yn honni bod ei fam a'i dad wedi 'rheoli rhan fwyaf ei fywyd'
Mae Brooklyn Peltz Beckham wedi dweud bod ei rieni, David a Victoria Beckham wedi bod yn ei "rheoli rhan fwyaf ei fywyd".
Mewn neges ar Instagram dywedodd nad oedd eisiau cymodi gyda'i fam a'i dad a'i fod am y tro cyntaf yn "sefyll fyny" drosto ei hun.
Mae yna ddyfalu wedi bod am amser bod yna ffrae wedi bod rhwng aelodau o'r teulu. Yn y negeseuon mae'n dweud fod ei rhieni wedi bod yn ceisio "dinistrio" ei berthynas gyda'i wraig, yr actores Nicola Peltz Beckham.
Dywedodd Brooklyn, sef plentyn hynaf David a Victoria Beckham ei fod wedi "cadw yn dawel" am flynyddoedd ac mae ei ddymuniad oedd cadw'r peth yn "breifat". Ond mae nawr meddai am fod yn gyhoeddus am yr hyn sydd wedi digwydd.
"Yn anffodus mae fy rhieni a'u tîm wedi parhau i fynd i'r wasg, gan fy adael i heb unrhyw ddewis ond siarad drost fy hun a dweud y gwir am rhywfaint o'r celwyddau sydd wedi eu haragraffu," meddai.
'Dawnsio anaddas'
Ychwanegodd bod ei fam a'i dad wedi "rheoli'r naratif yn y wasg am ein teulu".
"Mae'r negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn berfformiad, digwyddiadau teulu a pherthnasau annilys wedi bod yn rhan o'r bywyd dwi wedi cael fy magu ynddo fo," meddai.
Dywedodd eu bod nhw yn dweud celwydd wrth y wasg a bod pobl ddiniwed yn dioddef ar sail hynny. "Ond dwi'n credu y bydd y gwir bob tro yn dod allan," meddai.
Yn ôl Brooklyn Peltz Beckham fe wnaeth ei fam ganslo gwneud ffrog briodas Nicola ar yr unfed awr ar ddeg. Mae'n honni bod ei fam ar ddiwrnod ei briodas wedi ei "gywilyddio" trwy ddawnsio gydag o pan oedd Brooklyn a Nicola i fod i wneud eu dawns gyntaf fel pâr priod.
"Fe wnaeth hi ddawnsio yn hollol anaddas gyda fi o flaen pawb," meddai.
"Dwi erioed wedi teimlo yn fwy anghyffyrddus na wedi fy nghywilyddio fwy yn fy mywyd i gyd."
Mae Brooklyn yn dweud hefyd bod ei wraig wedi ei amharchu gan ei deulu a'u bod nhw wedi ceisio ymwneud gyda nhw sawl gwaith.
'Brand Beckham'
Mae'n sôn am benblwydd ei dad ac nad oedd ei dad eisiau ei weld o a'i wraig "oni bai bod hynny yn ystod y parti penblwydd mawr gyda channoedd o westeion a chamerâu ymhob cornel".
"Gwerthoedd fy nheulu yw eu hyrwyddo yn olwg y cyhoedd a chael sêl bendith uwchlaw popeth arall. Brand Beckham sydd yn dod yn gyntaf," meddai.
Mae'n dweud bod y naratif bod Nicola yn ei reoli yn anghywir ac mae ei fam a'i dad sydd wedi bod yn gwneud hyn. "Fe wnes i dyfu fyny gyda gor-bryder difrifol. Am y tro cyntaf yn fy mywyd ers ymbellhau oddi wrth fy nheulu mae'r pryder hwnnw wedi diflannu."
Does yna ddim ymateb wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol eto gan Victoria a David Beckham i'w sylwadau.
Llun: Cyfrif Instagram Brooklyn Peltz Beckham
