Cyhuddo dyn o lofruddio dynes 27 oed yn Sir y Fflint
28/08/2021
Heddlu.
Mae dyn 29 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio wedi digwyddiad yn Sir y Fflint ddydd Iau.
Mae Russell Norman James Marsh, 29 oed, o Ffordd Chevrons, Shotton, wedi ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen llys ynadon ddydd Llun.
Mae heddlu'r gogledd wedi cadarnhau mai Jade Ward oedd y ddynes 27 oed fu farw yn y digwyddiad yn gynnar fore Iau.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Jon Salisbury-Jones: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am yr holl gymorth werthfawr y maent wedi ei ddarparu".
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 21000594238.