Arestio tri ar ôl ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd
Mae swyddogion yr heddlu yn ymchwilio i ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am tua 3:00 fore Sadwrn yn Sgwâr Callaghan.
Cafodd dyn 18 oed ei drosglwyddo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond nad ydynt yn peryglu ei fywyd.
Mae tri o bobl, dau ddyn ac un fenyw, wedi eu harestio ac yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matthew Cox: "Gwnaeth swyddogion arestio'n fuan wedi i'r digwyddiad ddod i sylw'r heddlu.
"Yn ddealladwy fe all digwyddiadau o'r fath achosi pryder yn ein cymunedau.
"Mae taclo troseddau cyllyll yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ac rydym am glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn".
Mae gofyn i unrhyw un sy'n dyst i'r digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth amdano i gysylltu â heddlu'r de gan ddefnyddio cyfeirnod *302833.
Llun: Google