‘Colled enfawr’: Teyrngedau i ddyn busnes a hyfforddwr rygbi o Ben Llŷn

Thomas Jones

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i dad a thaid o Ben Llŷn sydd wedi ei ddisgrifio fel “cyfaill a phresenoldeb cadarn”.

Bu farw Thomas Richard Jones, oedd yn berchennog ar gaffi Y Gegin Fawr yn Aberdaron, yn gynharach y mis hwn.

Roedd Mr Jones hefyd yn gwirfoddoli gyda Gwylwyr y Glannau yn y pentref, ac yn hyfforddi tîm rygbi merched Y Celtiaid ym Mhwllheli.

Mae’n gadael pump o blant, dau o wyrion a’i wraig, Sharon.

Wrth roi teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ddywedodd tîm Gwylwyr y Glannau Aberdaron fod yna “golled enfawr” ar ei ôl.

Dywedodd datganiad gan y tîm: “Drwy dorcalon rydym yn rhannu'r newyddion trist am farwolaeth Tomos Penarfynydd (Tŷ Croes), aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o Dîm Gwylwyr y Glannau Aberdaron er 2015.

“Roedd Tomos yn fwy na gwirfoddolwr, roedd yn gyfaill, yn bresenoldeb cadarn ac yn wastad yn barod i roi ei amser i helpu a gwasanaethu eraill unrhyw bryd. 

“Fe'i cofir a pharch ac anwyldeb mawr gan ei gyd wirfoddolwyr. Cwsg yn dawel Tom. Diolch am bopeth."

'Gwên gynnes'

Dywedodd clwb rygbi Y Celtiaid mewn teyrnged iddo: “Roedd Tom yn un o brif hyfforddwr Y Celtiaid. Roedd ganddo’r gallu i weld y gorau ym mhawb, gan feithrin hyder, parch a chydymdeimlad cryf o deulu o fewn y tîm. 

"Bydd ei eiriau doeth, ei wên gynnes a’i gariad at Y Celtiaid yn aros yn ein cof am byth.

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwys gyda ei wraig Sharon, ei blant Trystan, Alaw, Awen, Harri-John, Mared a'u partneriaid, ei wyrion Nico a Dyfi, ei deulu a'i ffrindiau a phawb a gafodd y fraint o’i adnabod. 

“Gorffwys mewn hedd, Tom. Byddi di’n fawr dy golli!”

Hefyd yn rhoi teyrnged i Mr Jones ar y cyfryngau cymdeithasol roedd cwmni Beautifully Brutal Events, sy’n gyfrifol am drefnu rasus rhedeg ultra yn ardal Pen Llŷn. 

“Roedd Tom a Sharon yn gefnogol iawn o’r rasus Beautifully Brutal Backyard Ultra, gan gadal i ni ddefnyddio ei dir tuag at y rasus, ac nid oedd dim byth yn ormod o drafferth iddynt. 

“Roedd Tom bob amser yno yn ein cefnogi wrth paratoi’r caeau, a sicrhau bod popeth yn union fel y dylai fod.

“Roedd hefyd yn ein cefnogi drwy eu caffi nhw, yn Aberdaron, gan rhoi hufen iâ am ddim i’r cystadleuwyr ar y diwedd – caredigrwydd diffydd arol diwrnod hir a chaled ar y cwrs."

Ychwanegodd y deyrnged: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y caredigrwydd, yr haelioni a’r gefnogaeth dawel a ddangosodd Tom tuag atom a’n digwyddiadau. Roedd Tom bob tro yn barod i helpu.

“Mae ein meddyliau gyda Sharon, ar plant yn ystod y cyfnod trist hwn. Cwsg yn dawel Tom. Diolch am bopeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.