Ystyried creu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghaerdydd
Mae creu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghaerdydd ymhlith opsiynau a fydd yn cael eu hystyried gan gyngor y ddinas, medden nhw.
Dywedodd y cyngor eu bod nhw’n bwriadu casglu barn trigolion y ddinas am ddyfodol addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yno.
Roedd angen gweld “twf pellach” yn nifer y siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn y ddinas i gyrraedd targedau cenedlaethol, meddai aelod addysg cabinet y cyngor.
Y nod, medden nhw, oedd sicrhau bod pob dysgwr sy’n ceisio lleoedd uwchradd cyfrwng Cymraeg yn parhau i gael ei dderbyn.
Bydd yr opsiynau yn cynnwys creu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn ne Caerdydd, ac ehangu ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg presennol.
Fe fyddan nhw hefyd yn ystyried:
- adleoli ac ehangu Ysgol Bro Edern, gyda’r potensial ar gyfer pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol
- sefydlu safle ôl-16 cyfrwng Cymraeg cyfunol ac estynedig
- cyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg bresennol
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg, bod “Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau mynediad teg i bob dysgwr”.
“Mae’r ddinas wedi gweld cynnydd cyson yn nifer y siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, ond mae angen twf pellach i gyrraedd targedau cenedlaethol,” meddai.
Roedd Strategaeth Cymraeg mewn Addysg (CSCA) y cyngor yn anelu at 25–29% o ddisgyblion Blwyddyn 1 yn cael eu haddysgu yn Gymraeg erbyn 2031, i fyny o 17.6% yn 2023/24, meddai.
“Mae darparu addysg cyfrwng Cymraeg i blant lleol, hyrwyddo teithio cynaliadwy, a chefnogi lles cenedlaethau’r dyfodol yn hanfodol, a byddai lansio ymarfer ymgysylltu yn sicrhau bod lleisiau dysgwyr, rhieni, staff ysgolion a’r gymuned ehangach yn cael eu clywed,” meddai.
“Mae ehangu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi bod yn uchelgais hirsefydlog y weinyddiaeth hon, ac felly mae hwn yn gam pwysig wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled y ddinas ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny’n realiti.”
Mewn adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd, amlinellwyd nifer o amcanion Strategaeth Buddsoddi Addysg 2024–2033 y cyngor.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cwrdd ddydd Iau, 22 Ionawr 2026, i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad.
Os cytunir, byddai’r cyngor yn cynnal dau ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd ac yn ystyried adborth er mwyn llunio datblygiad cynigion ffurfiol yn y dyfodol, medden nhw.
