Cleifion amrywiolyn Delta yn fwy tebygol o angen triniaeth ysbyty

Mae pobl sydd wedi cael eu heintio gan amrywiolyn Delta Covid-19 yn fwy tebygol o fod angen triniaeth yn yr ysbyty, yn ôl astudiaeth newydd.
Roedd cleifion a oedd wedi eu heintio ag amrywiolyn Delta ddwywaith yn fwy tebygol o fod angen gofal ysbyty na'r sawl a gafodd eu heintio gan straen Alpha, adrodda Golwg360.
Edrychodd yr astudiaeth ar 43,000 o achosion Covid-19 yn Lloegr rhwng misoedd Mawrth a Mai 2021.
Cafodd yr astudiaeth ei chyhoeddi yn y cylchgrawn meddygol The Lancet Infectious Diseases.
Darllenwch y stori yma.