20 mlynedd o garchar i ddyn am droseddau rhyw yng ngogledd Cymru
Mae dyn 58 oed wedi cael ei garcharu am 20 mlynedd am droseddau rhyw yn erbyn plant yng ngogledd Cymru.
Cafwyd Adrian Howarth o Benbedw (Birkenhead) yn euog o 10 trosedd yn Llys y Goron Caernarfon yn dilyn achos llys ym mis Tachwedd y llynedd.
Roedd y troseddau yn cynnwys treisio, ymosod yn anweddus, anwedduster difrifol, a chreulondeb tuag at blentyn.
Mae’r troseddau, a ddigwyddodd yn Y Fflint, yn erbyn tri dioddefwr, nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol, yn dyddio’n ôl i’r 1980au a’r 1990au.
Fe gafodd Howarth ei ddedfrydu i gyfanswm o 20 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.
Gorfodwyd ef hefyd i gofrestru fel troseddwr rhyw am oes, a rhoddwyd gorchmynion atal am oes iddo i amddiffyn y tri dioddefwr.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Tracey Hughes, na “ddylai’r un o’r dioddefwyr hyn fod wedi gorfod dioddef cam-drin ffiaidd gan Howarth”.
“Ac rwy’n canmol pob un ohonynt am eu dewrder wrth ei riportio a chefnogi ein hymchwiliad,” meddai.
“O ganlyniad uniongyrchol i’w dewrder, mae ymosodwr peryglus bellach yn wynebu cyfnod sylweddol o amser y tu ôl i fariau.
“Nid yw Howarth wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei droseddau ac, yn lle hynny, fe orfododd y dioddefwyr i ail-fyw eu trawma drwy’r achos llys.
“Mae’r tri yn parhau i ddioddef effaith ei droseddu yn eu bywydau yn oedolion.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr achos hwn yn annog eraill sydd wedi bod yn destun cam-drin rhywiol i gamu ymlaen a chael sicrwydd y bydd eu tystiolaeth yn cael ei chlywed.
“Bydd hynny’n atgoffa unrhyw droseddwr rhywiol y byddant yn gorfod wynebu canlyniadau eu gweithredoedd – pryd bynnag y digwyddodd cam-drin rhywiol.”
