Adeiladu llong bren enfawr ar gyfer parc coffa'r Dywysoges Diana
Mae llong bren enfawr a fydd yn ganolbwynt i waith i ailwampio parc goffa Y Dywysoges Diana yn Llundain bron wedi ei chwblhau.
Y gobaith yw bydd y parc yng ngorllewin Llundain yn agor yn yr haf wedi i'r gwaith £3 miliwn ddod i ben.
Mae'r llong yn cael ei hadeiladu wrth Alpau Bafaria yn Yr Almaen cyn cael ei throsglwyddo i Lundain.
Mae wedi ei hadeiladu o goedwigoedd sydd yn cael eu rheoli'n gynaliadwy yn Alpau Bavaria.
Cafodd y parc, sydd wedi ei leoli yng Ngerddi Kensington, ei gau ar gyfer y gwaith yn yr hydref y llynedd.
Mae tua miliwn o bobl yn ymweld â'r parc coffa pob blwyddyn.
Fe fydd y llong 12 metr o uchder yn cynnwys sleid, a mynedfa i'r prif ddec ar gyfer pobl mewn cadair olwyn.
Dywedodd Andy Williams, rheolwr y parc yng Ngerddi Kensington bod y parc newydd yn cael ei adeiladu "yn ysbryd y Dywysoges Diana".
"Mae'r parc wir yn cyffwrdd â dychymyg plant, mae'n gadael iddyn nhw deimlo'n rhydd mewn lle diogel," meddai.
"Mae'n cael ei adeiladu yn ysbryd y Dywysoges Diana - rydym wedi bod yn driw wrth wneud hynny."