Abertawe: Bwrdd iechyd yn ymddiheuro i'r cyhoedd mewn llythyr agored

Treforys

Mae un o fyrddau iechyd y de wedi cyhoeddi ymddiheuriad am y sefyllfa mewn rhai o'i ysbytai mewn llythyr agored i'r cyhoedd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi gorfod cyhoeddi dau "ddigwyddiad parhad busnes" yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig - sef y cam mwyaf difrifol o ymyrraeth pan fod gwasanaethau'n gwegian dan bwysau.

Mae'r sefyllfa'n ddrwg iawn yn Ysbyty Treforys, Castell-nedd Port Talbot a Singleton medd y bwrdd iechyd, o ganlyniad i gau rhai wardiau o achos yr haint Norofeirws ac anhawsterau rhyddhau cleifion.

'Cynnydd sydyn mewn cleifion'

Mewn llythyr agored ddydd Llun, dywedodd y bwrdd iechyd: "Yn yr wythnos ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y cleifion sy'n cyrraedd mewn ambiwlans neu yn cerdded i mewn, ynghyd â llai o gleifion yn cael eu rhyddhau er gwaethaf eu bod yn feddygol iach. Mae hyn wedi achosi gorlenwi ac arosiadau hir, gan effeithio ar gleifion a'u teuluoedd, ac rydym yn wirioneddol flin am hynny.

"Mae ein system yn dibynnu ar gadw cleifion yn symud trwy'r ysbyty ac i'r gymuned. Yn ddiweddar, mae'r "llif" hwnnw wedi'i amharu gan alw mawr, cau wardiau sy'n gysylltiedig â heintiau, ac anawsterau wrth ryddhau cleifion o ysbytai Treforys, Castell-nedd Port Talbot a Singleton.

"Dyma pam y gwnaethom ddatgan digwyddiadau parhad busnes dros y saith diwrnod diwethaf - y cyntaf ers mis Mawrth y llynedd. Mae gwneud hynny yn caniatáu inni gymryd camau eithriadol, fel galw staff i mewn ar eu diwrnodau i ffwrdd. 

"Yng ngoleuni cau wardiau sy'n gysylltiedig â heintiau, rydym hefyd yn adolygu ymweliadau fesul ward yn Nhreforys. Yn y cyfamser, gofynnwn i unrhyw un sydd ag unrhyw symptomau o Norofeirws neu debyg ymatal rhag ymweld â'u hanwyliaid er mwyn osgoi lledaeniad pellach a chau gwelyau sy'n effeithio ar ein gallu i gadw cleifion yn ddiogel."

'Balch'

Ychwanegodd y llythyr fod y bwrdd iechyd yn "falch o'r gwelliannau a wnaed dros y misoedd diwethaf, ond mae'n bwysig bod yn agored pan fo'r pwysau'n uchel." 

"Gobeithiwn fod y llythyr hwn yn egluro ein sefyllfa bresennol ac yn eich sicrhau bod ein cyfeiriad teithio hirdymor yn parhau i fod yn gadarnhaol."

Wrth ymateb i'r sefyllfa yn y bwrdd iechyd, dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds AS: “Pan fydd ysbytai’n llawn a chleifion yn sownd mewn gwelyau oherwydd nad yw’r gofal sydd ei angen arnynt gartref ar gael, mae hynny’n fethiant gofal cymdeithasol cymaint ag un y GIG.

“Yr hyn yr ydym yn ei weld ym Mae Abertawe yw’r union beth sy’n digwydd pan fydd gofal cymdeithasol wedi’i dan-ariannu a’i or-ymestyn – ôl-groniadau ysbytai, rhyddhau oedi a staff wedi’u gwthio i’r pwynt o dorri.

“Mae Llafur wedi rhedeg gofal cymdeithasol yng Nghymru i’r gwaelod, ac mae’r canlyniadau bellach yn cael eu teimlo mewn ysbytai fel Treforys a Singleton.

“Mae’r wers yn glir: mae trwsio gofal cymdeithasol yn trwsio’r GIG. Mae angen buddsoddiad parhaus mewn gofal cymunedol a chymdeithasol ar Gymru, nid rheoli argyfwng diddiwedd unwaith y bydd ysbytai eisoes yn llawn.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

 
 
 
 
 
 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.