‘Arddangosfa i gofio fy mab, Frankie yn braf, ond ddim cysur’
‘Arddangosfa i gofio fy mab, Frankie yn braf, ond ddim cysur’
Mae mam i ddyn ifanc gafodd ei ddarganfod yn farw mewn coedwig ger Bangor wedi trefnu arddangosfa i gofio ei mab.
Roedd Frankie Morris, 18 oed o Landegfan, Ynys Môn, ar goll am bron i fis nes i’r heddlu ddod o hyd i’w gorff mewn coedwig ar gyrion Bangor ar 3 Mehefin.
Daeth cwest i’r dyfarniad cychwynnol ei fod wedi marw o ganlyniad i grogi.
Ddydd Sadwrn, bydd arddangosfa o waith Frankie, oedd yn artist graffiti brwd, yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Ucheldre yng Nghaergybi.
“Roedd yn arfer bod yn artist graffiti,” meddai mam Frankie, Alice Morris.
“Roedd yn gwneud lot a lot o graffiti, yng ngogledd Cymru ac yn Brno yn y Weriniaeth Tsiec, sef fy nghartref.
“Mae’n arddangosfa o’i waith, sydd yn deyrnged fach iddo".
Yn dilyn marwolaeth ei mab, fe ddywedodd Ms Morris y byddai ei mab yn cael ei gofio drwy sefydlu elusen yn ei enw, Sefydliad Frankie Morris.
Dyma ddigwyddiad cyntaf yr elusen.
‘Ofnadwy beth ddigwyddodd’
“Mae’n braf i fi gael rhywbeth i gofio Frankie, ond fedrwch chi ddim dweud ei fod yn gysur i chi, dydy o ddim mewn unrhyw ffordd", ychwanegodd Ms Morris.
“Mae’n ofnadwy beth ddigwyddodd iddo, ac mae’n waeth i fi achos fi ydy ei fam e.
“Felly fyswn i ddim yn dweud ei fod yn gysur imi, ond mae’n braf gweld fod rhywbeth yn cael ei wneud i’w gofio".
Bydd cyfle i ymwelwyr roi cynnig ar greu celf graffiti eu hunain mewn gweithdai arbennig fel rhan o’r arddangosfa.