Enwi pedwar fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a thacsi

Bolton

Mae pedwar o bobl sydd wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a thacsi yn Bolton wedi eu henwi yn lleol.

Roedd tri ohonynt yn fechgyn ifanc eu harddegau.

Yn ôl Heddlu Manceinion fe darodd car Seat Leon coch yn erbyn tacsi Citroen C4 Picasso ar Wigan Road yn y dref yng ngogledd Lloegr yn ystod oriau mân fore dydd Sul.

Fe fuodd farw'r gyrrwr a dau deithiwr yn y Seat, yn ogystal â gyrrwr y Citroen.  

Maent wedi eu henwi gan Gyngor Mosgiau Bolton meddai Sky News fel Mohammed Jibrael Mukhtar, Farhan Patel a Muhammad Danyaal Asghar Ali.

Y gred yw mai Mosrab Ali oedd y gyrrwr tacsi oedd yn ddyn yn ei 50au. 

Fe fuodd y pedwar dyn farw yn y fan a'r lle.

Cafodd pump o deithwyr eraill eu hanfon i'r ysbyty meddai'r Heddlu.

Mae'r llu wedi dweud yn gynharach bod y gwaith wedi dechrau i adnabod y rhai fuodd farw a bod yr heddlu yn cefnogi'r teuluoedd oedd yn gysylltiedig gyda'r gwrthdrawiad. 

Fe ddywedodd y Prif Arolygydd Helen McCormick bod y digwyddiad yn un "ofnadwy".

"Roedd hyn yn amgylchiadau heriol iawn i'n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys ac fe fydden ni yn hoffi diolch i'r gweithwyr brys, y rhai sydd yn ymateb gyntaf," meddai.

Llun: PA 


 

 

 

 

   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.