Darganfod corff menyw mewn llyn yng Nghaerdydd
Mae corff menyw wedi cael ei ddarganfod mewn llyn yng Nghaerdydd.
Dywedodd Heddlu'r De fod y corff wedi'i ddarganfod yn llyn Parc y Rhath yn y brifddinas fore Sul.
Dyw'r corff ddim wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae perthnasau agosaf y fenyw wedi cael gwybod.
Dywedodd datganiad gan yr heddlu: "Cafodd corff menyw ei dynnu o'r dŵr ym Mharc y Rhath, Caerdydd heddiw yn dilyn adroddiad am tua 08.30.
"Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus ac mae ymholiadau i'r amgylchiadau a arweiniodd at ei marwolaeth yn parhau.
"Mae ei pherthnasau agosaf wedi cael gwybod ac mae disgwyl i'r corff gael ei adnabod yn ffurfiol yn ddiweddarach heddiw."