Prinder staff wedi ‘dinistro’ y diwydiant lletygarwch
Prinder staff wedi ‘dinistro’ y diwydiant lletygarwch
Mae yna bwysau ychwanegol ar economi Cymru yn nhermau staffio, yn enwedig o fewn y diwydiant lletygarwch, yn ôl corff sydd yn cynrychioli'r sector.
Yn ôl Cymdeithas Lletygarwch Prydain mae 200,000 o swyddi gwag o fewn y sector, sy’n golygu bod 10% o holl swyddi’r maes yn wag.
Mae'r prinder staffio o fewn y diwydiant yn effeithio ar fusnesau mewn sawl rhan o Gymru.
Yn ôl Dion Hughes, perchennog tafarndai yn ardal Gwynedd, mae’r broblem staffio yn “dinistrio” y diwydiant lletygarwch.
“Dwi’n meddwl bod y diwydiant wedi cael ei ddinistrio gan y sefyllfa efo’r staff.
“Mae 'na bedwar aelod o staff yn hunan ynysu ar hyn o bryd, heddiw 'ma 'sgen o ni ddim digon o chefs i fod yn y gegin.”
‘Angen talu mwy’
Mae awgrym bod cyflogau is mewn ardaloedd gwledig yn gwneud pethau’n waeth.
Dywedodd Nerys Fuller-Love o Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth: “Mae angen i fusnesau talu mwy i ddenu staff".
“Dwi hefyd yn meddwl bod lot o bobl wedi mynd adref i Ewrop. Maen nhw wedi mynd nôl achos Brexit.
"Hefyd mae rhai pobl dal ar furlough wrth gwrs, a dydyn nhw ddim yn chwilio am waith ar hyn o bryd".
Mae Robin Llywelyn, Rheolwr pentref gwyliau hanesyddol Portmeirion ger Porthmadog, yn meddwl “bod hyn yn wers i gyflogwyr".
“Er mwyn cadw'r gweithwyr sydd ganddyn nhw, rhaid rhoi telerau teg", dywedodd.
“'Dan ni’n talu dros y cyfartaledd statudol, a 'dan ni’n rhoi swyddi llawn amser cynaliadwy rownd y flwyddyn a hyfforddiant. Mae'r rheini i gyd yn bethau hanfodol".