Cyfyngu'r ymdrech chwilio am ddyn sydd ar goll yn Afon Teifi
Bydd y gwaith o chwilio yn Afon Teifi yn Aberteifi am ddyn sydd ar goll yn parhau dros y penwythnos, ond ar raddfa lai.
Mae swyddogion wedi bod yn chwilio am ddyn a aeth i mewn i'r dŵr yn oriau mân fore Sul, 4 Ionawr.
Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi ymuno â chydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yr RNLI, a Gwylwyr y Glannau EM i chwilio'n y dŵr a glannau'r afon dros y pum niwrnod diwethaf.
Y gred yw mai Kurtis Brook, 30 oed, yw'r dyn sydd ar goll, ac mae swyddogion yn parhau mewn cysylltiad agos â'i deulu i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a'u cefnogi.
Oherwydd natur yr ymgyrch, a'r amser sydd wedi mynd heibio ers ei weld ddiwethaf, bydd agwedd amlasiantaeth yr ymateb yn cael ei addasu, a bydd Heddlu Dyfed-Powys yn unig yn cynnal y gwaith o chwilio amdano o hyn ymlaen.
Dywedodd y Prif Arolygydd Richard Yelland: “Yn anffodus, nid yw’r chwilio hyd yn hyn wedi arwain at y canlyniad yr oeddem yn ei obeithio, ac rydym wedi cyfleu hyn i deulu Kurtis.
“Rydym, fel heddlu, wedi ymrwymo i ddod o hyd i Kurtis, a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu yn y dyddiau nesaf i’w gael adref. Er y bydd y chwilio parhaus hwn yn cael ei gynnal yn annibynnol gan ein swyddogion, rydym yn sicrhau bod gennym y gallu i chwilio ar y dŵr gyda chymorth ein huned forol, ar droed ar hyd glannau’r afon, ac o’r awyr gan ddefnyddio dronau."
Ychwanegodd: “Bydd yr unedau arbenigol hyn yn cael eu galw i mewn pan fo’n briodol, gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi i reoli'r gwaith chwilio.
“Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf rydym hefyd wedi cydlynu chwilio gwirfoddol, ac rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd wedi glynu wrth ein paramedrau chwilio.
"Mae hyn yn dangos pa mor agos yw’r gymuned yn Aberteifi, ac rydym yn gwybod bod y teulu wedi cymryd cysur o wybod faint maen nhw’n cael eu cefnogi.
“Rydym yn atgoffa’r rhai sy’n edrych i helpu bod risgiau wrth gynnal chwiliadau annibynnol, ac os oes ardaloedd diogel y gellir eu chwilio, byddwn yn cyfleu hyn."
