Luke Littler: ‘Dwi eisiau ennill popeth’
Mae Luke Littler wedi datgan ei fod am geisio ennill pob peth ym myd dartiau ar ôl iddo gipio Pencampwriaeth Dartiau’r Byd am yr eildro yn olynol nos Sadwrn.
Fe gurodd Littler Gian Van Veen o 7-1 yn Alexandra Palace.
Fe enillodd Littler saith set yn olynol ar ôl i Van Veen fynd ar y blaen.
Hon oedd trydydd rownd derfynol yn olynol i Littler, sy’n 18 oed, ar ôl colli i Luke Humphries yn 2024 pan oedd ond yn 16 oed.
Dywedodd ar ôl ennill tlws Sid Waddell ac £1 miliwn: “Dyma freuddwyd. Dwi ishe domiwnyddi popeth, dwi eisiau ennill popeth."
Methodd y trydanwr o Wrecsam Curtis Griffiths, 27 oed, yn ei ymgais i ennill £180,00 yn Alexandra Palace.
Roedd wedi ei ddewis o fwy na 30,000 o bobl oedd wedi cyfrannu i ymchwil canser y prostad fel rhan o'r ymgyrch Darts of Destiny.
Roedd ganddo gyfle i sgorio mwy na 180 gyda 9 darten er mwyn ennill gwobr o £180,000.
Dim ond 89 lwyddodd i sgorio gan ennill £5,000.