Trump yn dweud ei fod wedi cipio Arlywydd Venezuela a'i wraig
Mae Arlywydd America Donald Trump wedi dweud ei fod wedi “cipio arweinydd [Venezuela], yr Arlywydd Nicolás Maduro” a’i wraig yn dilyn ffrwydradau yno ddydd Sadwrn.
Cafodd nifer o ffrwydradau eu gweld ym mhrifddinas Venezuela, Caracas bore ddydd Sadwrn, ac fe gafodd taleithiau Miranda, Aragua a La Guaira eu taro gan ymosodiadau hefyd.
Mae’r Arlywydd Trump wedi cadarnhau mai’r Unol Daleithiau oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau gan ddweud eu bod bellach wedi cipio’r Arlywydd Maduro a’i wraig.
Mewn datganiad ar ei gyfrwng cymdeithasol Truth Social, dywedodd: “Mae’r Unol Daleithiau wedi cynnal ymosodiad ar raddfa fawr yn llwyddiannus yn erbyn Venezuela a’i harweinydd, yr Arlywydd Nicolás Maduro, sydd — ynghyd â’i wraig — wedi cael eu cipio a’u cludo o’r wlad.”
Ychwanegodd y bydd yna ragor o fanylion am 11.00 amser lleol (16:00 ym Mhrydain) yn dilyn cynhadledd i’r wasg yng nghlwb Mar-a-Lago yn nhalaith Florida.
“Diolch am eich sylw i’r mater hwn! Yr Arlywydd DONALD J. TRUMP,” meddai.
Pryd ddechreuodd yr ymosodiad?
Cafodd hediadau o’r Unol Daleithiau i Venezuela eu hatal bore ddydd Sadwrn ar ol i Weinyddiaeth Awyrennau Ffederal, neu’r FAA (‘Federal Aviation Administration’), yn yr Unol Daleithiau ddweud bod “gweithrediadau milwrol” yn cymryd lle.
Y gred yw bod y ffrwydradau wedi dechrau yn Venezuela am tua 02:00 (06:00 amser Prydain) fore ddydd Sadwrn.
Roedd awyrennau a delweddau o fwg du yn codi i’w gweld yn y brifddinas Caracas bryd hynny.
Mae Arlywydd America, Donald Trump, eisoes wedi rhybuddio y byddai’n gweithredu ar lawr gwlad yn Venezuela yn sgil tensiynau diweddar.
Mae wedi cyhuddo Arlywydd Nicolás Maduro o hybu troseddau cyffuriau yn America, yn ogystal ag annog mudo i’r wlad.
Mae Arlywydd Nicolás Maduro wedi dweud bod Trump yn ceisio cymryd drosodd tiriogaeth Venezuela drwy geisio cael gafael ar adnoddau olew’r wlad.
Llun: Reuters