Risg o geulad gwaed yn llawer uwch yn sgil Covid-19 nag o’r brechlyn
Mae risg llawer uwch o ddatblygu ceulad gwaed yn sgil Covid-19 nag oes ar ôl derbyn dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca neu Pfizer, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae’r ymchwil wedi ei seilio ar ddata 29 miliwn o bobl a gafodd eu brechu gydag un dos o’r naill frechlyn neu'r llall, yn ôl Sky News.
Mae'r ymchwil wedi darganfod bod risg uwch o ddatblygu ceulad gwaed ar ôl cael un dos o’r brechlyn, serch hynny, roedd y risg yn llawer uwch i berson oedd wedi profi’n bositif am Covid-19.
Fe gafodd yr ymchwil ei wneud gan dîm ym Mhrifysgol Rhydychen a weithiodd yn agos gyda’r tîm a ddatblygodd y brechlyn AstraZeneca.
Mae rhai gwledydd wedi gwahardd y defnydd o’r brechlyn AstraZeneca yn sgil pryderon am geuladau gwaed.
Darllenwch y stori'n llawn yma.