Dim llacio pellach i reolau Covid-19 Cymru am y tro
Ni fydd unrhyw newidiadau i’r rheoliadau iechyd cyhoeddus yng Nghymru am y tro, medd y llywodraeth.
Mae tair wythnos ers i Gymru symud i Lefel Rhybudd Sero, gan gael gwared ar y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau oedd mewn grym.
Roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, eisoes wedi awgrymu na fyddai llacio pellach y tro hwn.
Ond, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn parhau i ystyried ei gwneud hi’n ofynnol i bobl ddangos tystysgrif er mwyn cael mynediad at leoliadau “risg uwch”.
Mae Mr Drakeford yn annog pobl yng Nghymru i gael eu brechu i’w hamddiffyn rhag y feirws.
'Brechiad yw'r amddiffyniad gorau'
Ers yr adolygiad diwethaf, nid oes cyfyngiadau wedi bod ar y nifer o bobl all gyfarfod dan do.
Ond, mae gwisgo gorchudd wyneb yn parhau’n orfodol yn y rhan fwyaf o leoliadau cyhoeddus.
Mae hi hefyd yn rhaid i unrhyw un hunanynysu os maen nhw’n datblygu symptomau’r feirws neu’n profi’n bositif am Covid-19.
Tra nad oes newidiadau mawr y tro hwn, nid oes bellach angen gwisgo gorchudd wyneb mewn seremonïau priodasol a phartneriaeth sifil, yn unol â’r eithriad sydd eisoes yn bodoli ar gyfer partïon priodas.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Mae nifer yr achosion yn cynyddu, ac mae’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn waeth na’r sefyllfa a oedd yn ein wynebu dair wythnos yn ôl pan symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero.
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau gyda’r rhagofalon, a hynny i sicrhau nad yw’r gwaith da sydd wedi’i wneud hyd yma yn ofer.
“Cael y brechiad yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym o hyd.
“Os nad ydych wedi manteisio ar y cynnig o frechiad yn barod, rwy’n eich annog yn gryf i wneud hynny, gan ymuno â thros 2.1 miliwn o bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu’n llawn er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill”, ychwanegodd.
Fe fydd y rheoliadau coronafeirws yng Nghymru yn cael eu hadolygu eto ar 16 Medi.