Russell Brand wedi ei gyhuddo o ragor o droseddau rhyw
Mae Russell Brand wedi ei gyhuddo o ddwy drosedd ryw arall yn cynnwys treisio.
Roedd y digrifwr ac actor sy'n 50 oed, eisoes wedi ei gyhuddo o ddau achos o dreisio, un achos o ymosod yn anweddus, a dau achos o ymosodiad rhyw mewn perthynas â throseddau honedig rhwng 1999 a 2005, yn ymwneud â phedair dynes.
Gwadodd e'r cyhuddiadau hynny yn Llys y Goron Southwark yn gynharach eleni.
Ddydd Mawrth, dywedodd Heddlu'r Met yn Llundain a Gwasanaeth Erlyn y Goron fod Russell Brand wedi ei gyhuddo o un achos o dreisio ac un achos o ymosodiad rhyw yn gysylltiedig â dwy ddynes arall.
Mae'r honiadau yn dyddio'n ôl i 2009, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar 20 Ionawr 2026.
Mae e'n aros i sefyll ei brawf yn Llys y Goron Southwark mewn cysylltiad â'r pum cyhuddiad gwreiddiol.
Clywodd y llys fis Mai fod Russell Brand, o Sir Rydychen wedi ei gyhuddo o dreisio dynes mewn ystafell gwesty, tra roedd hi yno ar gyfer cynhadledd y Blaid Lafur yn Bournemouth, yn ogystal â honiad iddo ymosod ar weithwraig yn y byd teledu mewn tai bach.
Cafodd ei gyhuddo wedi ymchwiliad gan Channel 4 a'r Sunday Times, pan gyhoeddodd sawl dynes honiadau yn ei erbyn.
