
Cymunedau’r gogledd yn cynorthwyo ffoaduriaid o Afghanistan

Cymunedau’r gogledd yn cynorthwyo ffoaduriaid o Afghanistan
Mae pobl mewn sawl rhan o’r gogledd yn cyfrannu nwyddau i roi cymorth i ffoaduriaid o Afghanistan.
Mae pob math o bethau’n cael eu cyfrannu at yr apêl a fydd yn cynnig cymorth i’r ffoaduriaid wrth iddyn nhw gyrraedd Prydain.
Ym Mangor mae'r ymdrech wedi bod yn 'rhyfeddol' yn ôl Catrin Wager o Gyngor Gwynedd.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: “Mae o'n rhyfeddol. Ges i'n synnu blynyddoedd yn ôl pan oedden ni'n cychwyn 'Pobl i Bobl' efo pa mor hael odd pobl yn yr ardal yma a pa mor barod i helpu.
“Ac mae hwn jyst 'di dangos unwaith eto bod pobl yn yr ardal yma yn gefnogol iawn.
“‘Da ni’n gwir gobeithio fedrwn ni neud gwahaniaeth i helpu croesawu pobl sy'n cyrraedd yma o sefyllfa mor ofnadwy".

O Fangor i Ynys Môn, mae pob math o ddeunydd yn cael eu casglu.
Mae Gwesty’r Dinorben yn Amlwch wedi’i ddewis fel canolfan gasglu.
Dywedodd Candy Farell o Westy’r Dinorben: "Mae Camre Amlwch wedi dechre hel pethau at ei gilydd, mae'r Dinorben yn gyfarwydd i bawb so mae'n le da i bobl ddod yma, i ddod â phethe iddyn nhw.
“Mae 'na bob math o siampŵs, petha i blant, pethau ymolchi, pethau mae pobl angen rili, jyst i fyw”.
Mae'r deunydd yn cael eu cludo i Fanceinion y penwythnos hwn i’w ddosbarthu.
Ychwanegodd Catrin Wager: “Elusen o'r enw 'Care for Calais’ sydd yn cydlynu hyn felly mynd a nhw atyn nhw fyddan ni a 'da ni ar ddallt bod 'na hwb ym Manceinion, ac yna yn fanna bydda'n nhw'n gobeithio eu dosbarthu nhw.
“Ond o ran casglu 'da ni yn fama, paratoi'r pecyna weloch chi ac wedyn fyddwn ni'n pasio nhw ymlaen i 'Care for Calais' ym Manceinion”.