Oedi ar yr M4 ar ôl i gar fynd ar dân
Roedd oedi ar ddarn o’r M4 yn ne Cymru fore dydd Sadwrn ar ôl i gar fynd ar dân.
Bu’n rhaid cau dwy lôn o’r draffordd i gyfeiriad y dwyrain rhwng Y Pîl a Phen-y-bont ar ôl i gar fynd ar dân am tua 10:15.
Roedd Traffig Cymru wedi rhybuddio gyrwyr i ganiatáu amser ychwanegol wrth i’r gwasanaethau brys ddelio gyda’r digwyddiad.
Fe agorwyd y draffordd yn ddiweddarach ar ôl 11:00.
Fe ddiolchodd Traffig Cymru i deithwyr am eu hamynedd wrth ddelio gyda’r digwyddiad.
Llun: Traffig Cymru