Newyddion S4C

Gorymdaith Greenham yn gobeithio ‘dilyn yn ôl troed menywod gwych’

26/08/2021

Gorymdaith Greenham yn gobeithio ‘dilyn yn ôl troed menywod gwych’

Mae 40 mlynedd wedi mynd heibio ers i 36 menyw o Gymru orymdeithio i Gomin Llu Awyr Brenhinol Greenham, Berkshire, i brotestio yn erbyn penderfyniad Nato i leoli arfau niwclear yr UDA ar dir cyffredin y Deyrnas Unedig.

I nodi'r digwyddiad, mae gorymdaith coffa wedi ei threfnu sydd yn dechrau yng Nghaerdydd. 

Un sydd yn falch o gael dathlu yw Rebecca Mordan, cyfarwyddwr yr orymdaith a gafodd ei hysbrydoli gan fenywod Greenham ar ôl ymweld â’r gwersyll gyda’i mam yn blentyn ifanc.

Yn siarad â Newyddion S4C am gynlluniau’r orymdaith, dywedodd: “Rwy’n gobeithio i weld llwyth a llwyth o fenywod ar y ffordd.

‘Dilyn yn ôl troed menywod gwych’

“Fy mhrif obaith yw bydd hyn yn dechrau sgwrs rhwng pobl o bob cenhedlaeth ond yn enwedig pobl ifanc er mwyn iddyn nhw gael gwybod am Greenham a sylweddoli nad ydynt ar ben eu hunain, maent ar ysgwyddau cewri ac yn dilyn yn ôl troed menywod hynod o wych.

“Mae menywod yn ysbrydoli menywod ac mae’n rhwystredig i orfod ‘ailddyfeisio’r olwyn’ pob tro.

“Dwi eisiau i Greenham fod yn air ‘prif ffrwd’ unwaith eto fel yw’r Suffragettes,” ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.