'Peryg' y bydd ysbytai dan bwysau wrth i nifer yr achosion o'r ffliw godi

15/12/2025

'Peryg' y bydd ysbytai dan bwysau wrth i nifer yr achosion o'r ffliw godi

Roedd golwg iach ar blant Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdyddmond nid pob un oedd yno.

Mae rhyw 10% ar hyn o bryd yn sal.

Mae'r disgyblion yn gwybod bod rhaid ceisio gwarchod eu hunain rhag y ffliw.

"Dw i'n golchi fy nwylo a gwneud yn siwr dw i ddim yn cyffwrdd pethau mae pobl eraill wedi cyffwrdd."

"Pan dw i'n tagu, dw i'n mynd fel hyn fel bod o ddim ar llaw fi.

"Os mae at llaw fi, trio dim cyffwrdd pethau."

"Dw i'n bwyta bwydydd sy'n dda i fi.

"Os fi'n sal, fi'n cael immune system da."

Mae cemegau cryfach yn cael eu defnyddio rwan wrth lanhau ac mae 'na gyngor i staff aros adra os ydyn nhw'n sal.

Ond roedd yr ysgol wedi cymryd un cam pwysig yn barod.

"Mae'r rhan fwyaf o'r plant wedi cael eu brechu yn yr ysgol eleni oherwydd y ffliw.

"Ond mae dal i fod pethau eraill o gwmpas.

"Mae 'na feirysau gwahanol fel annwyd a norovirus.

"Mae 'na nifer o bethau, nid jyst ffliw, ar hyn o bryd."

Mae un ysgol yng Nghaerffili wedi gorfod cau dros dro ar ol i dros 250 o ddisgyblion a staff fynd yn sal.

Gallai'r ysbytai ddod o dan bwysau.

Roedd dros 250 o gleifion yn cael triniaeth ysbyty o achos y ffliw erbyn diwedd wythnos gyntaf Rhagfyr.

Roedd 12 o'r rheiny angen gofal dwys.

Bellach, mae Bwrdd Iechyd y Gogledd yn galw ar bawb sy'n dod i'r adran frys i wisgo mwgwd a'r rheiny ar gael wrth y drws blaen.

Ond oes peryg i'r ysbytai fethu ag ymdopi?

Rhybudd sydd i'w glywed yn barod yn Lloegr.

"Ydi, mae hynny'n berygl.

"Mae hyn yn rhywbeth ry'n ni'n gweld bob bwyddyn oherwydd y ffliw.

"Y neges yw i sicrhau fod pobl yn cadw'n ddiogel.

"Os oes gennych chi symptomau o'r ffliw peidiwch a chymysgu gyda phobl.

"Neges Iechyd Cyhoeddus Cymru yw i bawb sy'n gymwys i gael y brechlyn ffliw fynd ati i greu apwyntiad drwy'r meddyg teulu, y fferyllfa neu'r bwrdd iechyd lleol.

"Mae digon o amser i gael y brechlyn ffliw cyn i ni weld brig yr achosion."

Dywedodd y Prif Weinidog wrth un o bwyllgorau'r Senedd fod dros 800,000 o bobl Cymru wedi cael eu brechu ond bod lle i wella ar hynny.

"The key thing for me is to take the pressure off the NHS by doing what we can to support and protect ourselves to ensure we get the vaccinations if we're eligible.

"Maybe buy a vaccination as a Christmas present for your loved ones if they're not eligible!"

Gall gwyliau'r Nadolig fod o gymorth os bydd llai o gymysgu dros y cyfnod hwnnw.

Ond 'dyn nhw ddim yn credu yn yr ysgol na'r ysbytai ein bod ni 'di cyrraedd y brig o ran achosion o'r ffliw eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.