Gobaith y bydd ymgynghoriad dementia yn 'drobwynt' i Gymru
Bydd modd i'r cyhoedd helpu i lywio dyfodol cymorth i bobl â dementia a'u teuluoedd, wrth i strategaeth 10 mlynedd newydd gael ei chyhoeddi ddydd Mawrth.
Mae mwy na 400 o bobl eisoes wedi helpu i ddatblygu'r blaenoriaethau yn y strategaeth newydd.
Nawr mae ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi i fireinio'r strategaeth ymhellach.
Mae'r Strategaeth Dementia yn mynd i'r afael ag anghenion penodol siaradwyr Cymraeg, defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain a phobl o gymunedau amrywiol, gan sicrhau bod gofal yn sensitif yn ddiwylliannol ac yn briodol yn ieithyddol.
Mae'r strategaeth yn cydnabod bod modd atal neu oedi bron i hanner yr achosion o ddementia drwy newidiadau ffordd o fyw fel parhau i wneud gweithgarwch corfforol, cynnal cysylltiadau cymdeithasol a rheoli cyflyrau fel pwysedd gwaed uchel a diabetes.
Mae'n canolbwyntio ar saith maes allweddol yn cynnwys lleihau risg ac atal dementia, gwella diagnosis, triniaeth a gofal, a chefnogi gofalwyr di-dâl
'Trobwynt'
Dywedodd Gemma Roberts, rheolwr dylanwadu cenedlaethol Cymdeithas Alzheimer's yng Nghymru: "Dementia yw prif achos marwolaethau yn y DU, ond gallai'r ymgynghoriad hwn fod yn drobwynt i Gymru.
"Mae Cymdeithas Alzheimer's yn falch o fod wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru ar flaenoriaethau'r ymgynghoriad hwn sydd, os cânt eu gweithredu, â'r potensial i drawsnewid bywydau pawb y mae dementia'n effeithio arnynt yng Nghymru.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam enfawr ymlaen ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r manylion, a sicrhau bod y strategaeth yn cyflawni newid gwirioneddol dros y 10 mlynedd nesaf."
Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:"Rydyn ni am i Gymru fod yn wlad lle mae pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu parchu, eu cynorthwyo a'u grymuso i fyw'n annibynnol gydag urddas yn eu cymunedau.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig wrth ddatblygu strategaeth sydd wir yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i bobl y mae dementia'n effeithio arnynt.
"Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i rannu eu barn a'n helpu i greu Cymru sy'n rhydd o stigma, lle mae pawb yn deall dementia ac yn cyfrannu at gymdeithas dosturiol a chynhwysol."
Yn ôl y Llywodraeth, mae'r strategaeth yn cael ei llunio ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd o ddementia, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gofalwyr a sefydliadau ledled Cymru.