Bygythiad terfysgaeth ym maes awyr Kabul yn ‘uchel iawn’

The Guardian

Mae “risg uchel iawn o ymosodiad terfysgol” yn erbyn ymgyrch i helpu pobl adael Afghanistan ym maes awyr Kabul.

Mae’r Deyrnas Unedig ymysg y gwledydd sydd wedi galw ar bobl i beidio â cheisio teithio i'r maes awyr rhagor, gan annog pobl i aros mewn “lleoliad diogel”.

Yn ôl The Guardian, dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn Prydain, Ben Wallace: “Gall y rheini sydd am ffoi Afghanistan i’r DU fod yn well eu byd yn ceisio cyrraedd y ffin nag aros am y RAF.”

Mae ffynonellau amddiffyn y DU wedi dweud mai'r risg gan ISIS-K, grŵp Islamaidd sy'n gysylltiedig â'r Wladwriaeth yw’r pryderon mwyaf.

Mae’r Guardian yn adrodd bod torfeydd enfawr yn parhau i’w gweld wrth giatiau’r maes awyr.

Darllenwch y stori’n llawn yma.