Enwi tad a mab oedd yn gyfrifol am saethu ar draeth Bondi
Mae'r heddlu yn Awstralia wedi enwi tad a mab a fu'n rhan o saethu ar draeth Bondi yn Awstralia ddydd Sul.
Bu farw Sajid Akram, 50 oed, yn y fan a'r lle tra bod ei fab Naveed Akram, 24 oed, yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Digwyddodd y saethu yn ardal Parc Archer traeth poblogaidd Bondi am 18.47 amser lleol ddydd Sul.
Cafodd 15 o bobl eu lladd gan gynnwys rabi o Brydain a merch 10 oed. Mae 40 o bobl wedi eu hanafu.
Mae Prif Weinidog Awstralia wedi dweud y bydd yn gwthio i gael cyfreithiau gynnau llymach ar ôl i 15 o bobl gael eu lladd yn yr ymosodiad.
Dywedodd Anthony Albanese bod Awstralia yn "gryfach na'r rhai sydd yn ceisio ein gwahanu ac fe ddawn ni trwy hyn gyda'n gilydd".
Mae galarwyr wedi bod yn cwrdd mewn lleoliad coffa i osod blodau ac i gofio'r rhai sydd wedi marw.
Mae'r ymosodiad wedi'i ddatgan yn ddigwyddiad terfysgol a oedd yn targedu dathliad Hanukkah ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl Iddewig.
Mae'r rabi Eli Schlanger, a oedd yn wreiddiol o Lundain ac yn rabi cynorthwyol yn Chabad Bondi, wedi cael ei enwi fel un o'r bobl a gafodd eu lladd.
Cafodd y tad i bump o blant ei fagu yng ngogledd Llundain ac roedd ganddo aelodau o’i deulu yn Synagog Kinloss yn Finchley, yn ôl Jewish News.
Roedd y dyn 41 oed a’i wraig, Chayala, wedi dathlu genedigaeth eu plentyn ieuengaf, bachgen bach, ddau fis yn ôl.
Dywedodd ei gefnder, y Rabbi Zalman Lewis o Brighton, wrth Jewish News: "Sut gall rabi llawen a aeth i draeth i ledaenu hapusrwydd a golau, i wneud y byd yn lle gwell, gael ei fywyd wedi dod i ben fel hyn?"
Llun: Reuters