'Perygl i fywyd': Rhybuddion am law trwm a allai achosi llifogydd yng Nghymru

15/12/2025
Tywydd 15 Rhagfyr 2025

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion oren a melyn am law trwm ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Llun, gan rybuddio am lifogydd a allai "beryglu bywyd" yn ardal y rhybudd oren.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio pobl yn Ne Cymru yn benodol i baratoi ar gyfer risgiau llifogydd sylweddol posibl.

Bydd y rhybudd oren yn dod i rym am 03.00 ddydd Llun ac yn parhau tan 21.00, gan effaithio ar holl siroedd y de a hefyd de Powys.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod yna eisoes amodau gyrru "hynod o wael" ar yr A40 rhwng Llandeilo a Manordeilo.

Roedd rhybuddion llifogydd ar Afon Tywi, rhwng Llandeilo ac Abergwili, ac Afon Cithi ben bore ddydd Llun.

Roedd rhybudd hefyd ar Afon Clydach Isaf wrth Bont Clydach ac Afon Ewenni ym Mhentre Ewenni. 

Daeth y rhybudd cyntaf - rhybudd melyn - i rym am 18.00 brynhawn Sul a bydd yn parhau tan 15.00 ddydd Llun, gan effeithio ar y gogledd a'r canolbarth.

Mae'r siroedd canlynol wedi'u cynnwys yn y rhybudd yma: Ceredigion; Conwy; Gwynedd; Powys; Sir Ddinbych.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 30-40 mm o law ddisgyn mewn nifer o ardaloedd, gyda dros 100 mm yn disgyn ar dir uwch.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fore dydd Llun bod llifogydd ar yr A487 i'r de o Benygroes yng Ngwynedd.

Yn y gogledd, roedd rhybudd llifogydd ben bore ar Afon Rhyd Hir ger Teras Glan Afon, Pwllheli, Afon Erch yn Abererch ac Afonydd Colwyn a Glaslyn ym Meddgelert.

Bydd rhybudd melyn arall am law yn effeithio ar Wrecsam a Sir y Fflint tan 23.59 ddydd Llun.

Maen nhw'n rhybuddio y gallai rhai mannau ddioddef llifogydd.

'Perygl i fywyd'

Bydd y trydydd rhybudd melyn yn dod i rym am 00.00 ddydd Llun ac yn parhau tan 23.59 y diwrnod hwnnw.

Bydd yn effeithio ar siroedd y de: Abertawe; Blaenau Gwent; Bro Morgannwg; Caerdydd; Caerffili; Casnewydd; Castell-nedd Port Talbot; Ceredigion; Merthyr Tudful; Pen-y-bont ar Ogwr; Powys; Rhondda Cynon Taf; Sir Benfro; Sir Fynwy; Sir Gâr; Torfaen.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd gall hyd at 30-55 mm o law ddisgyn mewn nifer o ardaloedd, gyda 75-100 mm yn disgyn ar dir uwch.

Ond bydd y tywydd yn gwaethygu i rai siroedd y de oriau'n ddiweddarach, gyda rhybudd oren yn dod i rym am 03.00 ddydd Llun ac yn parhau tan 21.00.

Bydd y rhybudd oren am law yn effeithio ar siroedd Abertawe; Blaenau Gwent; Bro Morgannwg; Caerdydd; Caerffili; Casnewydd; Castell-nedd Port Talbot; Merthyr Tudful; Pen-y-bont ar Ogwr; Powys; Rhondda Cynon Taf; Sir Benfro; Sir Fynwy; Sir Gâr; Torfaen.

Mae'n debygol y bydd yr ardaloedd yma yn gweld 50-80 mm o law yn disgyn, gyda rhai ardaloedd yn gweld hyd at 100 mm.

O ystyried y tywydd gwlyb diweddar mewn rhannau o'r de, mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod y tebygolrwydd o broblemau yn uwch.

"Mae dŵr llifogydd sy'n llifo'n gyflym neu'n ddwfn yn debygol, gan achosi perygl i fywyd," meddai llefarydd ar ran y swyddfa.

Gall y glaw achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n debygol y gallai effeithio ar gyflenwadau pŵer hefyd.

Daw hyn yn dilyn cyfres o rybuddion tebyg yr wythnos diwethaf, gan gynnwys rhybudd oren am law yn y de yn sgil Storm Bram.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.