Y bocsiwr Joe Cordina yn ennill ei ornest gyntaf yn America
Mae’r bocsiwr Joe Cordina yn gobeithio cael cyfle i ymladd am bencampwriaeth y byd ar ôl buddugoliaeth yn erbyn yr Americanwr Gabriel Flores Jr yng Nghaliffornia nos Sadwrn.
Yn ei ornest gyntaf yn America, fe wnaeth yr ymladdwr 34 oed o Gaerdydd ennill yn unfrydol, gyda’r beirniaid i gyd yn sgorio’r gornest o’i blaid: 117-110, 115-112 a 114-113.
Roedd yr ornest yn cael ei hystyried fel yr un oedd yn penderfynu gwrthwynebwr nesaf y pencampwr pwysau ysgafn WBO, Abdullah Mason.
Gan mai Cordina enillodd, y disgwyl yw mai ef sydd bellach ar frig y rhestr o ymladdwyr i wynebu Mason.
Daw’r fuddugoliaeth wedi i Cordina ennill y gwregys Pwysau Ysgafn Byd Eang WBO yn erbyn Jaret Gonzalez Quiroz fis Gorffennaf. Mae bellach wedi ennill 19 o’i ornestau, gan golli un.
Dywedodd Cordina, sydd wedi ennill pencampwriaeth y byd IBF yn y gorffennol: "Ges i’r fuddugoliaeth, ond nid cweit yn y ffordd roeddwn i eisiau ennill.
"Doedd e ddim yn gallu dal lan gyda fy nghyflymder."